Neidio i'r prif gynnwy

Cyflogaeth Hyfforddeion

Cyflogwr Arweiniol Sengl – rolau, cyfrifoldebau a manylion cyswllt

Fel rhan o'u rhaglen hyfforddi, mae hyfforddeion meddygol, deintyddol a fferylliaeth yn cylchdroi yn rheolaidd o un Bwrdd Iechyd, Ymddiriedolaeth neu bractis i’r llall. Yn draddodiadol, roedd hyn yn golygu bob tro y byddai hyfforddai yn cylchdroi i sefydliad/practis newydd byddai angen iddo fynd trwy'r broses gyflogaeth unwaith eto gan gynnwys yr holl wiriadau angenrheidiol.

Rydym wrthi'n symud yr holl hyfforddeion i'r model cyflogaeth Cyflogwr Arweiniol Sengl (SLE). Mae hyn yn golygu yn hytrach na newid cyflogwr bob tro y mae hyfforddeion yn cylchdroi, maen nhw'n aros gyda'r un cyflogwr trwy gydol eu hyfforddiant. Nid yn unig y mae hyn yn golygu llai o waith papur ac yn arbed amser, ond hefyd un cyflogwr parhaus am unrhyw bryderon, ymholiadau neu faterion drwy gydol hyfforddiant.

Mae trosglwyddo hyfforddeion i'r model SLE wedi bod yn rhan o raglen weithredu graddol dan arweiniad Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru sydd hefyd yn gyflogwr arweiniol.

Mae'r rhaglenni hyfforddeion canlynol eisoes wedi trosglwyddo:

  • Hyfforddiant Deintyddol Sylfaenol (HDS), Hyfforddiant Deintyddol Craidd (HDC) a Hyfforddiant Arbenigol Deintyddol (HAD).
  • GP
  • Fferyllwyr Sylfaen
  • Gofal Eilaidd - Blynyddoedd Sylfaen 1 a 2. Pediatreg, Obstetreg a Gynaecoleg. Arbenigeddau Patholeg. Seiciatreg Craidd ac Uwch, Radioleg. Arbenigedd Meddygaeth Uwch ac arbenigeddau Llawfeddygol Uwch. 

Bydd gweddill y rhaglenni hyfforddiant gofal eilaidd yn trosglwyddo cyn Awst 2022. I'r rhai sydd eto i drosglwyddo i'r model SLE, cysylltwch â'ch Bwrdd Iechyd sydd yn eich cyflogi gydag unrhyw bryderon sy'n ymwneud â chyflogaeth.

Pwy yw fy nghyflogwr?

Mae'r model SLE yn cynnwys tri sefydliad gydag un yn gweithredu fel y gyflogwr arweiniol sydd â chyfrifoldeb cyflogaeth dros hyfforddeion. Y cyflogwr arweiniol yn GIG Cymru yw’r Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (NWSSP) - ar eich slip cyflog y bydd yn ymddangos fel Ymddiriedolaeth GIG Felindre. Mae'r tabl isod yn manylu ar bob sefydliad sy'n ymwneud â'r model SLE a'u rolau a'u cyfrifoldebau cyffredinol mewn perthynas â'ch cyflogaeth a'ch hyfforddiant:

 

Cyflogwr Arweiniol - Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (NWSSP)

Sefydliad neu practis sy’n lletya (e.e. (Ee Bwrdd Iechyd, Ymddiriedolaeth, Meddygfa Teulu, Ymarfer Deintyddol, Fferylliaeth Gymunedol)

Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC)

  • contractau cyflogaeth
  • Gwiriadau cyn cyflogi. DBS a gwiriadau iechyd
  • talu cyflog misol
  • adleoli a chostiau teithio
  • treuliau cyffredinol
  • treuliau gwyliau astudio
  • absenoldeb salwch - mewn cysylltiad â'r sefydliad/practis sy’n lletya
  • gwyliau blynyddol - mewn cysylltiad â'r sefydliad / practis sy’n lletya
  • atgyfeiriadau iechyd galwedigaethol
  • hyfforddiant gorfodol
  • mynediad at Gofnod Staff Electronig (ESR)
  • E-bost y GIG
  • Rheoli perfformiad ar y cyd â’r sefydliad/practis sy’n lletya
  • cyfyngiadau/gwaharddiadau a materion disgyblu mewn cydweithrediad â'r sefydliad/practis sy’n lletya
  • ymddiswyddiadau

Gelwir hefyd yn ddarparwr addysg leol neu'n ddarparwr lleoliadau clinigol.

Yn darparu rheolaeth a goruchwyliaeth hyfforddiant o ddydd i ddydd gan oruchwylwyr clinigol ac addysgol

  • sefydlu yn y gweithle
  • cytundeb gwyliau blynyddol ac adrodd i'r cyflogwr arweiniol
  • cymeradwyo absenoldeb astudio ac adrodd i'r cyflogwr arweiniol
  • adrodd am absenoldeb salwch i'r prif gyflogwr ac AaGIC
  • dychwelyd i'r gwaith
  • cyfrifoldeb am hyfforddai ar gylchdro
  • goruchwyliwr addysg / hyfforddiant dynodedig
  • yn adrodd i AaGIC  am bryderon/materion addasrwydd i ymarfer.

Swyddog Cyfrifol, goruchwylio hyfforddiant a chynnydd mewn hyfforddiant.

  • recriwtio i raglenni hyfforddi
  • lleoliadau o fewn rhaglenni hyfforddi
  • mynediad at adnoddau a deunyddiau hyfforddi ar-lein
  • absenoldeb o hyfforddiant
  • ffitrwydd i ymarfer
  • perfformiad/asesiad hyfforddai
  • paneli adolygiad blynyddol o ddatblygiad Cymhwysedd (ARCP)
  • cyngor gyrfa
  • ailddilysu (ac eithrio Deintyddol)
  • cymryd amser i ffwrdd o'r rhaglen hyfforddi
  • dulliau o ddarparu hyfforddiant
  • rheoli ansawdd addysg a hyfforddiant
  • pryderon rhaglen addysg a hyfforddiant

Manylion cyswllt cyffredinol:

Pob hyfforddai

2.2 Cyflogres

02920 903908 (Opsiwn ar gyfer NWSSP / Velindre)

NWSSP.PayrollVelindre@wales.nhs.uk

https://nwssp.nhs.wales/ourservices/employment-services/contact-employment-services/south-east-wales/velindre-nhs-trust/
Pob hyfforddai

Treuliau Cyffredinol:

Mewngofnodi (cymru.nhs.uk)

(Bydd angen mynediad i'ch cyfeiriad e-bost GIG Cymru arnoch i ddefnyddio'r nodwedd hon)

Canllaw: http://howis.wales.nhs.uk/sites3/page.cfm?orgid=884&pid=72647

Gwefan: https://nwssp.nhs.wales/ourservices/lead-employer/general-information/expenses/
Pob hyfforddai Polisi Treuliau Adleoli NWSSP.Juniordoctorsrelocation@wales.nhs.uk
Pob hyfforddai Gwefan cyflogwr Arweiniol NWSSP https://nwssp.nhs.wales/ourservices/lead-employer/
Pob hyfforddai Cwestiynau Cyffredin cyflogwr arweiniol NWSSP Ysgol Sylfaen - HEIW.FoundationSchool@wales.nhs.uk

 

         Manylion cyswllt grŵp hyfforddi benodol:

         

Grŵp Hyfforddi

Cyflogwr Arweiniol -

ar gyfer yr holl faterion sy'n ymwneud â chyflogaeth.
Sefydliad Lletyol - ar gyfer rheoli/goruchwylio hyfforddiant o ddydd i ddydd. AaGIC - ar gyfer rhaglenni addysg a hyfforddiant
Deintyddiaeth

E-bost

nwsspSLE@dental.wales.nhs.uk
Goruchwyliwr Clinigol/Addysg

2.2.1 Hyfforddiant Deintyddol Sylfaenol

HEIW.DFTenquiries@wales.nhs.uk

Hyfforddiant Deintyddol Craidd helen.o'hara@wales.nhs.uk

  Hyfforddiant Arbenigol Deintyddol frances.yuen-lee@wales.nhs.uk

Hyfforddiant Meddyg Teulu E-bost NWSSPSLE.GPST@wales.nhs.uk Goruchwyliwr Clinigol/Addysg HEIW.GPTraining@wales.nhs.uk
Fferyllydd Sylfaen E-bost NWSSPSLE.Pharmacy@wales.nhs.uk Goruchwyliwr Clinigol/Addysg HEIW.PRP@wales.nhs.uk
Meddygol

Anestheteg
NWSSPSLE.Anaesthetics@wales.nhs.uk

Paediatrics, Obstetreg a Gynaecoleg (ST/SpR) NWSSPSLE.CW@wales.nhs.uk

Meddygaeth Myffredinol ac Uwch, Meddygaeth Frys
NWSSPSLE.Medical@wales.nhs.uk

lwybr Craidd Gofal Acíwt (ACCS)
NWSSPSLE.ACCS@wales.nhs.uk

Pediatreg
NWSSPSLE.CW@wales.nhs.uk

Goruchwyliwr Clinigol/Addysg Ysgol Sylfaen HEIW.FoundationSchool@wales.nhs.uk