Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yn falch iawn o lansio'r Cynllun Gweithlu Deintyddol Strategol. Bydd y camau gweithredu sy’n deillio o’r cynllun yn llywio atebion cynaliadwy ar gyfer y gweithlu deintyddol yng Nghymru, a fydd yn helpu i wella gofal cleifion a darpariaeth gwasanaethau.
Wedi’i greu mewn partneriaeth â’r Rhaglen Strategol ar gyfer Gofal Sylfaenol, ac yn cyd-fynd â’r Cynllun Gweithlu Strategol ar gyfer Gofal Sylfaenol, ffocws y cynllun deintyddol yw sicrhau bod gan weithlu deintyddol gofal sylfaenol y sgiliau a’r cymwyseddau sydd eu hangen ar gyfer darparu gofal iechyd y geg yn y dyfodol.
Mae'r cynllun wedi esblygu yn dilyn adolygiad helaeth o lenyddiaeth, gan ddadansoddi'r wybodaeth sydd ar gael am y gweithlu ac ymgynghori â rhanddeiliaid allweddol.
Bydd y cynllun hwn yn helpu i gynllunio gwasanaethau deintyddol yn y dyfodol ac yn gwella rhai o heriau presennol y gweithlu tra'n parhau i hyfforddi'r gweithlu ar gyfer y dyfodol. Bydd angen gwaith parhaus gan yr holl randdeiliaid ar draws y system i wella darpariaeth gwasanaethau deintyddol ar gyfer y dyfodol.
Mae’r camau nesaf wrth gyflawni’r cynllun deintyddol yn cynnwys blaenoriaethu camau gweithredu, datblygu cynllun costio a gweithredu a fframwaith buddion.
“Mae'n bleser gennyf rannu'r Cynllun Gweithlu Strategol Deintyddol gyda chi. Rydym yn ymwybodol o’r heriau sylweddol yn y gweithlu deintyddol yng Nghymru a’r effaith y mae hyn yn ei chael ar gleifion a’u gofal. Mae’r cynllun gweithlu hwn wedi’i ddatblygu i fynd i’r afael â rhai o’r rhain a gosod sylfeini, o ran cefnogi’r gweithlu presennol a chynllunio’r llwybrau hyfforddi ar gyfer gweithlu’r dyfodol.” Kirstie Moons, Deon Deintyddol Ôl-raddedig