Published 01/07/24
Mae Rheolwr Proffesiynol Endosgopi yn Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC), Dr Phedra Dodds, wedi cael canmoliaeth uchel gan Gymdeithas Gastroenteroleg Prydain (BSG) ac wedi’i chydnabod yn y rownd derfynol ar gyfer Gwobr Addysg a Hyfforddiant y Fonesig Parveen Kumar.
Bu cystadlu brwd am y wobr, ac mae’n cydnabod gwaith di-glod hyfforddwyr rhagorol yn datblygu dyfodol arbenigeddau gastroenteroleg a hepatoleg mewn gofal iechyd i sicrhau gofal diogel o ansawdd uchel i gleifion.
Cydnabuwyd yr anrhydedd yn ystod cynhadledd BSG ac yng Nghinio Llywydd y BSG yn Birmingham.
Bu Phedra’n gweithio fel endosgopydd am dros ugain mlynedd cyn ymuno ag AaGIC i arwain Academi Endosgopi Cymru ym mis Ionawr 2024 ac fe’i cyflogir gan Goleg Brenhinol y Meddygon i arwain addysg a hyfforddiant ar gyfer y gweithlu endosgopi ledled y DU ac Iwerddon.
Gan weithio mewn partneriaeth â byrddau iechyd ledled Cymru, mae’r academi’n gyfrifol am ddarparu hyfforddiant ar gyfer y gweithlu endosgopi cyfan yn GIG Cymru. Mae hyn yn cynnwys nyrsys a staff cymorth yn ogystal ag endosgopyddion.
Y llynedd (2023), cefnogodd yr Academi ychydig dros 100 o unigolion ar draws GIG Cymru gyda chyfleoedd hyfforddi endosgopi – ffigur sydd eisoes yn fwy eleni.
Enwebwyd Phedra ar gyfer y wobr gan yr Arweinydd Clinigol ar gyfer Academi Endosgopi Cymru, Dr Neil Hawkes, Arweinydd Hyfforddiant Coleg Brenhinol y Meddygon, Dr Paul Dunckley, Cadeirydd y Cyd-grŵp Cynghori ar Endosgopi GI, yr Athro Matt Rutter a llawer o'i myfyrwyr endosgopi.
Daw’r dyfyniad isod o’i henwebiad gan un o’i chyn-fyfyrwyr:
“Mae cefnogaeth ac anogaeth Phedra wedi bod yn amhrisiadwy i mi dros y blynyddoedd diwethaf. Mae'r gymuned Endosgopyddion Clinigol yn meddwl yn fawr iawn ohoni, yng Nghymru a thu hwnt. Mae hi'n athrawes aruthrol sydd wedi dysgu i mi nid yn unig sut i gwmpasu, ond sut i ddatblygu fy ngwydnwch ac i barhau i ymdrechu am ragoriaeth. Mae hi'n hyrwyddo rhagoriaeth yn barhaus ac mae ganddi brofiad byw o bron bob sefyllfa y bydd ei hyfforddeion yn dod ar ei draws. Mae ei chyngor synhwyrol, ei heiriolaeth o’n rôl a’i hawydd i gryfhau’r gweithlu Endosgopyddion Clinigol yng Nghymru yn ei gwneud hi’n hynod haeddiannol o wobr fel hon.”