Dyma lefel uchaf yr arbenigwyr clinigol yn y proffesiwn fferyllol. Cafodd y rôl ei chyflwyno am y tro cyntaf yn y GIG yn Lloegr yn 2005 ac yng Nghymru yn 2013.
Yn 2020 cafodd y maes ei foderneiddio’n sylweddol i sicrhau bod holl rolau Fferyllwyr Ymgynghorol yn sicrhau gwelliannau i iechyd, diogelwch a llesiant y boblogaeth a wasanaethir ganddynt ac i greu rolau i’r proffesiwn anelu atynt.
Cymerwyd y 4 cam canlynol i sicrhau:-
Bod gan y teitl Fferyllydd Ymgynghorol ystyr gwirioneddol
Bod pobl yn gallu ymddiried a bod ganddynt hyder yng ngallu Fferyllwyr Ymgynghorol unigol
Y Broses Ôl-gymeradwyo – mae’n disgrifio ystyr y teitl ‘Fferyllydd Ymgynghorol’ a’i fod yn awr yr un fath ble bynnag yr ewch yng Nghanllaw Fferyllwyr Ymgynghorol Drafft y GIG Canllaw Fferyllwyr Ymgynghorol Drafft
Y Broses Ôl-gymeradwyo - mae adolygwyr annibynnol yn asesu a yw swyddi Fferyllwyr Ymgynghorol yn cael eu sefydlu’n gyson i sicrhau llwyddiant yn y GIG Ôl-gymeradwyaeth | RPS
Asesiad ‘Parod i fod yn Ymgynghorydd’ - mae adolygwyr annibynnol yn asesu a yw fferyllwyr wedi profi eu gallu i gyflawni rôl Credentialing
Cyfeiriadur Cyhoeddus - mae’r holl swyddi cymeradwy’n cael eu rhestru ar y rhyngrwyd ac unrhyw ddefnydd arall o’r ‘Cyfeiriadur o Swyddi Fferyllwyr Ymgynghorol cymeradwy