Neidio i'r prif gynnwy

Datblygiad proffesiynol parhaus + (DPP+)

Dyn yn chwerthin o flaen gliniadur

Mae’r rhaglenni DPP+ yn darparu cyfleoedd dysgu i weithwyr fferyllol proffesiynol i wella ac arddangos eu sgiliau proffesiynol ymhellach.

Mae’r rhaglenni wedi’u cynllunio i ymestyn sgiliau’r unigolion i gwrdd â’r amgylchedd newidiol a rôl eang gweithwyr fferyllol proffesiynol wrth ddarparu gwasanaethau i gleifion.

Mae llu o gynigion ar gael ar wahanol lefelau o ymarfer yn ymwneud â datblygu gwasanaeth a datblygu sgiliau. Mae llawer o'n rhaglenni DPP+ yn rhaglenni Lefel 4 achrededig sy'n gofyn i ddysgwyr gyflwyno portffolio o dystiolaeth i'w asesu, gan arwain at ddyfarnu credydau. Ar ôl cofrestru ar y rhaglenni hyn, mae'n ofynnol i ddysgwyr fynychu holl ddyddiadau'r rhaglen a chyflwyno portffolio i fodloni gofynion asesu*. 

 

Y rhaglenni sydd ar gael ar adegau gwahanol yw:

 

Technegydd Fferyllfa Gwirio Achrededig (ACPT)

Technegydd Fferylliaeth Rheoli Meddyginiaethau (MMPT)

Cyflwyniad i Addysg ag Hyfforddiant

Cyflwyniad i Arweinyddiaeth Gofal Iechyd (rhaglen amlbroffesiynol)

Darparu Gwasanaethau Iechyd Cyhoeddus Fferylliaeth

Ymarfer Fferylliaeth Broffesiynol Annibynnol

Sgiliau Ymgynghori ar gyfer Technegwyr Fferylliaeth

Hyfforddiant Aseswyr (TAQA)

Rhagnodi fferyllol annibynnol

 

Mae rhagor o wybodaeth am yr holl gyrsiau DPP+ gan gynnwys dyddiadau a sut i wneud cais ar gael ar CPD+ Courses - HEIW Pharmacy (wcppe.org.uk)

 

Mae AaGIC hefyd yn cynnig cyfleoedd datblygu arweinyddiaeth bellach, ychwanegol, sydd i’w gweld yma.

*Mae AaGIC yn cadw'r hawl i hawlio ffioedd rhaglenni yn ôl ar gyfer costau yr eir iddynt, os bydd dysgwyr yn methu â mynychu'r dyddiadau gofynnol a/neu'n cyflwyno portffolio i'w asesu.