Neidio i'r prif gynnwy

Dychwelyd i Ymarfer / Newid i Weithwyr Fferyllol Proffesiynol

Mae Fferylliaeth AaGIC wedi creu canolfan adnoddau i gefnogi gweithwyr fferyllol proffesiynol (fferyllwyr a thechnegwyr fferyllol) i ddychwelyd i ymarfer a/neu newid eu sector ymarfer.

Rydym yn deall y gall fod angen i weithwyr proffesiynol gwblhau rhywfaint o ddatblygiad proffesiynol parhaus i fod yn gymwys a theimlo’n hyderus yn eu rolau, ac i fodloni gofynion y Cyngor Fferyllol Cyffredinol(GPhC) i ddychwelyd i ymarfer.

Mae’r adnodd hwn wedi cael ei ddatblygu i gefnogi gweithwyr fferyllol proffesiynol i ddiweddaru eu gwybodaeth am newidiadau sylweddol o ran ymarfer fferylliaeth yn y DU ac i nodi a diwallu eu hanghenion dysgu personol. Gall yr adnoddau a ddarperir ac y cyfeirir atynt rhoi cyflëoedd i weithwyr fferyllol proffesiynol i gasglu tystiolaeth i gefnogi sut ydynt yn bodloni safonau proffesiynol y CFfC. Ceir rhagor o fanylion am ofynion y CFfC am ddychwelyd i ymarfer ar y wefan: Dychwelyd i'r gofrestr | Cyngor Fferyllol Cyffredinol (pharmacyregulation.org).

Rydym wedi darparu adran adnoddau ‘CORE’ sy’n berthnasol i bob gweithiwr proffesiynol sy’n gweithio ym mhob sector gofal iechyd (Gofal Cymunedol, Ysbytai a Sylfaenol), yn cynnwys fframwaith hunanasesu i alluogi gweithwyr proffesiynol i ganfod y meysydd craidd gall fod angen cymorth ychwanegol ynddynt. Mae yna rhai adnoddau ‘penodol i’r SECTOR’ ar gael hefyd. Mae'r adnoddau a restrir ac y cyfeirir atynt yn gynhwysfawr ac ni fydd bob un yn berthnasol i bob unigolyn a’r bwriad yw eu defnyddio fel ffynhonnell gyfeirio.

Cyfeiriwch at yr adran ‘Cymorth Pellach’ am fanylion am sut gall Fferylliaeth AaGIC ddarparu arweiniad pellach a sut gall rhoi cefnogaeth i ddod o hyd i fentor addas.

Mae'n bwysig bod gweithwyr proffesiynol yn darllen yr holl bolisïau lleol priodol, gan gynnwys Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (SOPs) a Chyfarwyddiadau Grwpiau Cleifion (PGDs), sy'n cysylltu â'r gweithdrefnau a'r gwasanaethau sydd i'w cyflawni. Mae gan lawer o gontractwyr fferyllol a byrddau iechyd becynnau gwybodaeth locwm neu gylchdro ar gael, sy’n gallu bod yn adnodd gwerthfawr hefyd.

Mae'n hanfodol bod gweithwyr proffesiynol yn sicrhau bod yna yswiriant indemniad addas yn ei le gyda’r sefydliad sy’n eu cyflogi, neu ystyried os oes angen gwneud trefniadau personol. Mae’n rhaid cymryd barn broffesiynol i sicrhau bod gwaith yn ailddechrau yn ôl  gallu’r unigolyn.

Ar adeg ei gynhyrchu roedd y wybodaeth hon yn gywir. Beth bynnag, er byddwn yn ymdrechu i’w chadw’n gyfoes, byddwch yn ymwybodol y gall y wybodaeth a chanllawiau newid yn aml.

Mae’r ganolfan adnoddau dychwelyd i ymarfer ar gael yn gyffredinol, ond mae’n bosibl y bydd angen cofrestru drwy wefan Fferyllfa AaGIC i gael mynediad at rai adnoddau dysgu penodol sydd wedi’u cyfeirio.

Mynediad i'r Hwb Adnoddau Dychwelyd i Ymarfer.