Neidio i'r prif gynnwy

Datblygiad proffesiynol parhaus

Menyw yn ysgrifennu ar bapur

Mae Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) a Dysgu Gydol Oes yn angenrheidiol i ddatblygiad pawb sy'n gweithio ym maes Fferylliaeth ac i brofiad y rhai sy’n defnyddio’r gwasanaeth.

Er bod DPP a Dysgu Gydol Oes yn rhan holl bwysig i ailgadarnhau pob gweithiwr fferyllol proffesiynol, rydym yn cydnabod eu bod yn bwysig hefyd i’r gweithlu fferyllol ehangach. Ar ôl ei chwblhau bydd darpariaeth fferylliaeth yn parhau i gynorthwyo ac alinio gyda strategaeth DPP a Dysgu Gydol Oes AaGIC.

Rydym yn ceisio cyfleoedd lle bo’n briodol i gydweithio â'n cydweithwyr ar draws AaGIC, yn ogystal ag asiantaethau allanol, i ddatblygu a hyrwyddo digwyddiadau ac adnoddau addysgiedig amlddisgyblaethol. Yn ogystal, rydym yn annog gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill i gofrestru a defnyddio’r adnoddau perthnasol ar ein gwefan y gellir eu cyrchu trwy Fferyllfa AaGIC - (wcppe.org.uk).

Mae gan Fferyllfa AaGIC lawer o adnoddau sy'n cyfrannu at ein cynnig DPP. Rydym yn dilyn safonau iaith AaGIC ar gyfer y Gymraeg a byddwn yn datblygu hyn ymhellach yn y dyfodol.

 

Prif raglen DPP

Mae gennym raglen dymhorol sy’n cynnwys amrywiaeth o bynciau, fformatau a siaradwyr. Mae rhai digwyddiadau yn agored i’r gweithlu fferylliaeth cyfan ar draws sectorau, tra bydd eraill wedi’u llunio ar gyfer cynulleidfaoedd penodol gan ddibynnu ar y pwnc a’u perthnasedd.

Mae’r digwyddiadau byw hyn yn cynnwys pynciau therapiwtig, meysydd sgiliau sy’n berthnasol i ymarfer cyfoes, pynciau sy’n gysylltiedig â gwasanaethau a digwyddiadau penodol gan ganolbwyntio ar lesiant cydweithwyr.  Defnyddir fformatau amrywiol gan gynnwys gweminarau a sesiynau trafod i gyflwyno’r digwyddiadau hyn. Mae hyn yn cynnig gwelliant o ran hygyrchedd a dewisiadau i ddysgwyr. Mae’r digwyddiadau am ddim ac argymhellir cofrestru’n gynnar i sicrhau lle. Cliciwch ar y botwm isod i weld ein Rhaglen DPP presennol.

 

 

Adnoddau Ar-lein

Mae ein portffolio helaeth hefyd yn cynnwys adnoddau ar-lein mewn amryw o fformatau y gellir eu cyrchu trwy https://www.wcppe.org.uk/shop/

Recordiadau gweminar - mae'r rhain yn cynnwys recordiad o unrhyw ddigwyddiadau byw ar-lein yn ogystal â detholiad o sesiynau wedi'u recordio o flaen llaw.

E-ddysgu

Podlediadau/Videocast

Dychwelyd i Ymarfer - os ydych yn dychwelyd i ymarfer neu'n newid sectorau, efallai y bydd rhai adnoddau defnyddiol y gellir eu cyrchu trwy (mewnosodwch y ddolen i dudalen y Cynllun Dychwelyd I Ymarfer)

Dysgu Grwpiau Bach yn Seiliedig ar Ymarfer (PBSGL)

Mae PBSGL wedi’i dreialu’n llwyddiannus ac yn cael ei gynnig i bob clwstwr ledled Cymru. I gael rhagor o wybodaeth am y cyfle dysgu rhyngbroffesiynol/ amlddisgyblaethol hwn gweler y ddolen https://ytydysgu.heiw.wales/go/sh2fy5

 

Ein Tîm DPP

Kath Hodgson Deon Cyswllt - Pennaeth Cyflwyno Rhaglen DPP ac Ymarfer Sylfaen Ôl-gofrestru (fferylliaeth)

Arweinwyr DPP rhanbarthol:

Alison Davies (De) Alison.Davies31@wales.nhs.uk

Catrin Windsor-Jones (Canolbarth a Gorllewin) Catrin.Windsor-Jones@wales.nhs.uk

Karen Brambles (Gogledd) Karen.Brambles@wales.nhs.uk

Cymorth Busnes:

Jennie Powell, Marcus Staff a Charmaine Black

E-bost canolog: HEIW.Pharmacy@wales.nhs.uk