Neidio i'r prif gynnwy

Fferyllwyr sylfaen cyn-gofrestru

Fferyllydd yn gwenu

I ymarfer fel fferyllydd rhaid i chi gofrestru â’r Cyngor Fferyllol Cyffredinol (GPhC). I gofrestru, bydd angen i chi astudio ar gyfer gradd Meistr achrededig mewn fferylliaeth (MPharm).

Mae prifysgolion ledled y DU yn cynnig y cwrs, sy’n para pedair blynedd, yn llawn amser*. Ar ôl bod yn y brifysgol, i fod yn fferyllydd cymwysedig bydd angen i chi: weithio am gyfnod sylfaen cyn-gofrestru o flwyddyn o dan oruchwyliaeth a phasio arholiad cofrestru.

Mae’r lleoliad hyfforddi cyn-gofrestru yn gyfle i hyfforddeion ddatblygu a dangos y sgiliau, yr wybodaeth a’r ymddygiadau sydd eu hangen arnynt i ymarfer i’r safonau a ddisgwylir gan fferyllwyr. Mae hefyd yn gyfle iddynt i gymhwyso eu gwybodaeth academaidd mewn sefyllfaoedd go iawn.

Yn ystod eu lleoliad mae hyfforddeion yn gweithio o dan arweiniad a goruchwyliaeth goruchwyliwr addysgol cymeradwy a rhaid iddynt ddangos yn ystod y 52 wythnos eu bod yn cyrraedd yr holl safonau gofynnol.

Mae Cymru’n arwain y ffordd mewn hyfforddiant cyn-gofrestru yn y DU. Mae’r model amlsector newydd o hyfforddiant fferyllol cyn-gofrestru/cyn-sylfaen yn cyfrannu at ddatblygu gweithlu fferyllol hyblyg gyda’r sgiliau a’r cymwyseddau i gyflawni gweledigaeth “Cymru Iachach”: gweithlu a all weithio, cyfathrebu a deall y llwybr gofal cleifion cyflawn sy’n hanfodol i reoli gwasanaethau cleifion yn effeithlon.

* Mae ychydig o raddau MPharm pum mlynedd gyda Hyfforddiant sylfaen cyn-gofrestru sydd wedi’u hanelu’n bennaf at fyfyrwyr rhyngwladol sydd am gwblhau’r radd Fferylliaeth a hyfforddiant cyn-gofrestru’r DU tra’n cadw eu statws myfyriwr.