Neidio i'r prif gynnwy

Arolygon y Cyngor Meddygol Cyffredinol

People taking part on surveys

Beth yw arolygon hyfforddiant cenedlaethol y GMC?

Bob blwyddyn mae'r Cyngor Meddygol Cyffredinol (GMC) yn arolygu pob meddyg dan hyfforddiant i ddarganfod eu barn ar eu profiad hyfforddi.

Mae'r adborth hwn yn ein helpu i sicrhau bod meddygon dan hyfforddiant yn derbyn hyfforddiant o ansawdd uchel mewn amgylchedd clinigol diogel ac effeithiol.

Mae'r GMC hefyd yn arolygu pob hyfforddwr mewn gofal sylfaenol ac eilaidd (meddygfeydd a chlinigau meddygon teulu ac amgylcheddau ysbytai) er mwyn deall eu profiad o fod yn hyfforddwr ac i helpu i sicrhau eu bod yn cael cefnogaeth dda yn eu rolau.

Pryd mae'r arolwg yn cael ei gynnal?

Mae gan hyfforddeion a hyfforddwyr gyfnod o chwe wythnos i gwblhau'r arolwg rhwng mis Mawrth a mis Mai bob blwyddyn (mae'r union ddyddiadau'n amrywio). Yna adroddir ar ganlyniadau'r arolwg yn ystod haf y flwyddyn honno.

Mae mwy o wybodaeth am yr arolygon ar y tudalennau isod