Mae'r swyddi gwag hyn yn agored i ymgynghorwyr sydd ar hyn o bryd yn gweithio i'r GIG yng Nghymru ar gytundeb parhaol o fewn arbenigedd. Rhaid i ymgeiswyr fod wedi cael profiad o addysgu mewn addysg uwch. Mae'r swyddi gwag yn drefniadau sesiynol (mae'r lwfans yn amrywio ar draws arbenigeddau ac yn cael ei nodi yn y swydd ddisgrifiad). Os byddwch yn llwyddiannus, bydd angen i chi drafod yr ymrwymiad amser yn eich cynllun swydd gyda'ch Cyfarwyddwr Clinigol.
Mae AaGIC yn gwahodd ceisiadau am Gyfarwyddwr Rhaglen Hyfforddi ar gyfer Meddygaeth Geriatrig (De Cymru) i ymuno â'r tîm a gweithio'n agos gyda'r Deon Meddygol Ôl-raddedig, Pennaeth yr Ysgol Arbenigol a'r tîm Cymorth Hyfforddiant Arbenigol i chwarae rhan bwysig yng nghyfeiriad rhaglenni hyfforddi ledled Cymru ar gyfer hyfforddeion Meddygaeth Geriatrig.
Bydd yr ymgeisydd delfrydol yn Ymgynghorydd Meddygaeth Geriatrig profiadol gyda gwybodaeth a dealltwriaeth gynhwysfawr o hyfforddiant ar draws y rhanbarth ac sydd hefyd â sgiliau arwain a chyfathrebu cryf ac yn gallu gweithio fel rhan o dîm.
Bydd y swydd yn cael ei chynnig am 3 blynedd yn y lle cyntaf, yn amodol ar arfarniad blynyddol boddhaol, gyda'r opsiwn o wneud cais i ymestyn y rôl, os cytunir ar y ddwy ochr.
Os hoffech gael eich ystyried ar gyfer y rôl, anfonwch eich CV a mynegiad o ddiddordeb / datganiad personol yn manylu ar eich addasrwydd ar gyfer y rôl yn erbyn y fanyleb person i HEIW.SecondaryCare@wales.nhs.uk.
Dyddiad Cau: 06.09.2024
Dyddiad Cyfweld: 16.09.2024
Cychwyn y rôl: Hydref 2024
Mae AaGIC yn gwahodd ceisiadau am Gyfarwyddwr Rhaglen Hyfforddi ar gyfer Llawdriniaeth Gyffredinol i ymuno â'r tîm a gweithio'n agos gyda'r Deon Meddygol Ôl-raddedig, Pennaeth yr Ysgol Arbenigol a'r tîm Cymorth Hyfforddiant Arbenigol i chwarae rhan bwysig yng nghyfeiriad rhaglenni hyfforddi ledled Cymru ar gyfer hyfforddeion Niwrolawfeddygaeth.
Bydd yr ymgeisydd delfrydol yn Ymgynghorydd Llawdriniaeth Gyffredinol profiadol gyda gwybodaeth a dealltwriaeth gynhwysfawr o hyfforddiant ar draws y rhanbarth ac sydd hefyd â sgiliau arwain a chyfathrebu cryf ac yn gallu gweithio fel rhan o dîm.
Bydd y swydd yn cael ei chynnig am 3 blynedd yn y lle cyntaf, yn amodol ar arfarniad blynyddol boddhaol, gyda'r opsiwn o wneud cais i ymestyn y rôl, os cytunir ar y ddwy ochr.
Os hoffech gael eich ystyried ar gyfer y rôl, anfonwch eich CV a mynegiad o ddiddordeb / datganiad personol yn manylu ar eich addasrwydd ar gyfer y rôl yn erbyn y fanyleb person i HEIW.SecondaryCare@wales.nhs.uk.
Dyddiad Cau: 13.09.24
Dyddiad Cyfweld: 30.09.24
Cychwyn y rôl: I’w gadarnhau gyda’r ymgeisydd llwyddiannus
Mae AaGIC yn gwahodd ceisiadau am Arweinydd Hyfforddiant Hyblyg. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno â thîm Gofal Eilaidd AaGIC a bydd yn arwain ar gyflwyno hyfforddiant hyblyg ar draws yr holl arbenigeddau i bob hyfforddai yng Nghymru.
Bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus fod yn ymgynghorydd parhaol sy'n gweithio yng Nghymru sydd â phrofiad o gefnogi mentrau hyfforddi hyblyg ac yn ddelfrydol yn rhywun sydd naill ai wedi gweithio LTFT, wedi cynrychioli hyfforddeion Llai nag Amser Llawn yn eu harbenigedd neu sydd â phrofiad o reoli hyfforddeion sy'n hyfforddi Llai nag Amser Llawn.
Cynigir y swydd am 3 blynedd y gellir ei hadnewyddu am 2 flynedd arall, yn amodol ar arfarniad blynyddol boddhaol a chytundeb y Cyfarwyddwr Gofal Eilaidd a'r Deon Ôl-raddedig.
Os hoffech gael eich ystyried ar gyfer y rôl, anfonwch eich CV a mynegiad o ddiddordeb / datganiad personol yn manylu ar eich addasrwydd ar gyfer y rôl yn erbyn y fanyleb person i HEIW.Secondarycare@wales.nhs.uk.
Dyddiad Cau: 01.09.2024
Dyddiad Cyfweld: 16.09.2024
Cychwyn y rôl: 01.10.2024