Neidio i'r prif gynnwy

Rydym yn recriwtio staff y GIG i fod yn Bencampwyr Hinsawdd Call

Rydym yn recriwtio staff y GIG i fod yn Bencampwyr Hinsawdd Call

 

Yn 2019, datganodd Cymru argyfwng hinsawdd, gan anfon arwydd clir bod Cymru wedi ymrwymo i fynd i'r afael â her y newid yn yr hinsawdd.

Mewn ymateb i hyn, gosododd Llywodraeth Cymru darged o sero net i’r sector cyhoeddus yng Nghymru erbyn 2030.

GIG Cymru yw'r allyrrydd sector cyhoeddus mwyaf o C02, gydag ôl troed carbon o dua 1.00MTC02e. Mae hyn yn cyfateb i bron i ddefnydd ynni 126,000 o gartrefi am flwyddyn gyfan!

Mae AaGIC wedi ymrwymo i wneud a chynnal newid cynaliadwy ledled GIG Cymru. Un ffordd yr ydym yn gweithio i gyflawni hyn yw drwy recriwtio Pencampwyr Hinsawdd Call o weithlu'r GIG.

 

Beth yw pencampwr hinsawdd call?

Pencampwr hinsawdd call yw rhywun a fydd yn arwain y gwaith o drawsnewid GIG Cymru yn sefydliad doethach, mwy llwyddiannus a mwy cynaliadwy.

Mae arnom angen unigolion angerddol ar bob lefel i sbarduno newid cynaliadwy yn eu hamgylchedd.

Mae'r cyfle hwn yn agored i unrhyw un sy'n gweithio i'r GIG yng Nghymru. Mae'n ychwanegiad gwych i'ch rôl bresennol, yn ogystal â chyfle da i wella eich sgiliau arwain mewn cynaliadwyedd.

 

Beth sydd dan sylw?

Bydd angen i chi ymrwymo i:

  • Baratoi chwe awr o hunan-astudio
  • Gweithdy rhithwir pedair awr

Byddwch hefyd yn cael cyfle i gael cymorth parhaus drwy gaffis gofal iechyd cynaliadwy dwy awr drwy gydol y flwyddyn.

Mae'r fenter hon yn rhan o ymgyrch AaGIC i gyflawni yn ôl ein cyfrifoldebau sefydliadol a chyfrifoldebau GIG Cymru. Mae'r rhain yn sicrhau y byddwn, ymhen tair blynedd, wedi ymgorffori'r wybodaeth a'r ymchwil datgarboneiddio ddiweddaraf mewn arweinyddiaeth, ymarfer, hyfforddiant ac addysg gofal iechyd, gan gynorthwyo ymagwedd Gymreig at ofal iechyd cynaliadwy.

 

DYDDIADAU ALLWEDDOL

Dyddiad cau carfan 1 - Dydd Gwener 9 Rhagfyr

Bydd Sesiynau Gwybodaeth Galw Heibio i Bencampwyr Hinsawdd Call, yn cael eu cynnal ar

ID cyfarfod: 389 952 020 880
Cod pasio: 6zF4jX

ID cyfarfod: 366 358 944 48
Cod pasio: Cqc6WL

 

Cofrestrwch yma: https://forms.office.com/r/vXsmJFDghN

 

Cyswllt: HEIW.Planning&Performance@Wales.nhs.uk