Neidio i'r prif gynnwy

Arweinwyr Cyfadrannau

Cysylltu pobl

Mae Arweinwyr Cyfadran yn gynrychiolwyr Deoniaeth Feddygol AaGIC sydd wedi’u lleoli o fewn Byrddau Iechyd / Ymddiriedolaethau i gefnogi, rheoli, darparu a gwella hyfforddiant ac addysg feddygol.

Mae ganddynt gyfrifoldeb am un neu fwy o feysydd craidd o weithgaredd addysgol:
 

Ansawdd: Sicrhau systemau rheoli ansawdd, llywodraethu addysgol a gweithredu safonau GMC o fewn y LEP a darparu cyswllt rhwng cyfarwyddiaethau, AaGIC ac Ysgolion Arbenigedd (gan gynnwys Meddygon Teulu) ac Ysgolion Hyfforddiant Sylfaen. Mae Arweinwyr Cyfadran hefyd yn rhoi cyngor a gwybodaeth ar gynnal safonau ansawdd a monitro hyfforddiant yn ystod cyfnodau o newid yn y gwasanaeth.

Hyfforddwyr: Cefnogi a datblygu hyfforddwyr i gyflawni eu rôl, proffesiynoli rôl yr hyfforddwr, ac ymdrechu i wella ansawdd yr hyfforddiant yn barhaus;

Hyfforddeion: Sicrhau y darperir systemau cymorth priodol i hyfforddeion a hyrwyddo ‘llais yr hyfforddai’ ac ymgysylltiad hyfforddeion â mentrau gwella ansawdd.

Swyddi Gwag Arweinydd Cyfadran

Ar hyn o bryd rydym yn recriwtio ar gyfer y swyddi Arweinydd Cyfadran canlynol:

 

Arweinydd Cyfadran (Ysbyty Gwynedd), Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 18 Mawrth 2024):