Neidio i'r prif gynnwy

Rhaglen Datblygu Cyfadran

Rhaglen datblygu cyfadran efelychu safonedig.

Menter a grëwyd ar ôl ymgynghori'n helaeth â'r Gymuned Efelychu yng Nghymru yw'r Rhaglen Datblygu Cyfadran Efelychu. Defnyddion ni ddull cyfunol i ddarparu’r cyfleoedd dysgu i sicrhau hyblygrwydd a hygyrchedd.  

Bydd y rhaglen yn cynnwys tri chwrs annibynnol: Hanfodol, Uwch ac Arbenigol. Lansiwyd y Cwrs Datblygu Cyfadran Hanfodol cyntaf ym mis Hydref 2022. 

Gwybodaeth Hanfodol am Gwrs Datblygu Cyfadran Efelychu: 

Cynulleidfa darged  Datblygwyd y cwrs Hanfodol ar gyfer unrhyw hwyluswyr neu dechnegwyr sy'n newydd i efelychu neu sydd erioed wedi mynychu cwrs hyfforddi'r hyfforddwyr ar gyfer efelychu. 
Nod  Darparu sgiliau sylfaen sy'n ddigonol i arwain sesiynau efelychu a chyfrannu at ddylunio efelychu dan oruchwyliaeth. 
Hyd a modd cyflwyno 

10 awr o ymdrech dysgwyr 

Dull dysgu cyfunol

5 awr o ddysgu hunangyfeiriedig (modiwlau e-ddysgu) ac yna 5 awr o ddysgu wedi ei hwyluso (wyneb yn wyneb neu rithwir) 

Amcanion dysgu 

Erbyn diwedd y cwrs bydd cyfranogwyr yn gallu: 

  • Disgrifio moddau ac egwyddorion addysg efelychu. 

  • Nodi a chymhwyso egwyddorion ffactorau dynol a dosbarthiad trefnus yn ystod hyfforddiant efelychu.  

  • Dylunio a hwyluso senarios efelychu syml wedi eu halinio â chwricwla perthnasol a dilyn safonau addysgol.  

  • Hwyluso sesiynau a strwythurau ôl-drafod diogel i gyflwyno amcanion dysgu. 

Modiwlau 
  1. Cyflwyniad i efelychu a safonau 

  1. Ffactorau Dynol 

  1. Dylunio a hwyluso efelychu  

  1. Ôl-drafod 

Bydd y 5 awr o ddysgu hunangyfeiriedig fydd ar gael fel modiwlau e-ddysgu, yn cynnwys asesiad ffurfiannol ac mae'n rhaid ei gwblhau cyn mynychu sesiwn "fyw" wedi'i hwyluso.

Cyflwyno'r cwrs: Byddwn yn cyflwyno'r sesiwn wedi’i hwyluso naill ai wyneb yn wyneb mewn gwahanol leoliadau ledled Cymru, neu'n rhithwir trwy Microsoft Teams.

Mae'r sesiwn wedi'i hwyluso, boed yn cael ei chyflwyno'n rhithwir neu wyneb yn wyneb, wedi'i chynllunio i fodloni'r un amcanion dysgu. Mae'r sesiwn rithwir yr un mor effeithiol â'r sesiwn wyneb yn wyneb. Byddwch yn cael yr un cyfleoedd i drafod, cydweithio, ymarfer hwyluso senarios a dadfriffio mewn grwpiau, i gyd yn 'fyw' a chydag arweiniad gan hwylusydd yn y sesiynau rhithwir ac wyneb yn wyneb. Yr unig wahaniaeth yw bod y sesiwn rithwir yn fwy addas ar gyfer hwyluso senarios efelychu a gyflwynir yn rhithiol, yn aml gan ddefnyddio cleifion/cyfranogwyr safonol tra yn y sesiynau wyneb yn wyneb rydych yn fwy tebygol o ddefnyddio manicinau a phropiau.

Wrth wneud y dewis rhwng mynychu'r sesiwn rhithwir neu wyneb yn wyneb, ystyriwch y cwestiynau/pwyntiau canlynol:

  • Beth yw eich maes ymarfer a pha fath o senarios yr hoffech chi allu eu rhedeg?
  • Pa sgiliau ydych chi am eu datblygu?
  • Sut ydych chi'n dysgu orau?
  • A oes gennych amser i deithio a mynychu'r sesiwn wyneb yn wyneb yn bersonol ynghylch eich ymrwymiadau?
  • Oes gennych chi lawer o wrthdyniadau yn eich amgylchedd agos lle gallech chi gael mynediad i'r sesiwn rhithwir a allai effeithio ar eich gallu i ganolbwyntio?

 Dyma ddyddiadau gyfer y sesiynau a hwylusir:

Dyddiad Lleoliad
Dydd Llun 22 Ebrill 2024

Rhithwir: Microsoft Teams

Dydd Llun 3 Mehefin 2024

Wyneb yn wyneb: Ysbyty Llwynhelyg

Dydd Llun 9 Medi 2024 Rhithwir: Microsoft Teams
Dydd Llun 7 Hydref 2024 Wyneb yn wyneb: Ysbyty Bronllys
Dydd Llun 11 Tachwedd 2024 Rhithwir: Microsoft Teams

 

Defnyddiwch y ddolen ganlynol i gofrestru: https://www.eventbrite.com/cc/simfd-programme-essential-course-1834589. Nodwch y bydd llefydd yn y sesiynau wedi'u hwyluso yn gyfyngedig.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, cysylltwch â ni ar HEIW.SimulationFD@wales.nhs.uk.