Neidio i'r prif gynnwy

Gwella ansawdd trwy efelychu

Gwella ansawdd trwy efelychu, fframwaith sy'n seiliedig ar wella ansawdd i arwain ymyriadau efelychu yn dilyn digwyddiadau allweddol ym maes gofal iechyd. 

Diaz-Navarro C, Jones B, Pugh G, Moneypenny M, Lazarovici M a Grant D, Mawrth 2023.

 

Mae efelychu wedi cael ei ddefnyddio mewn gofal iechyd ers blynyddoedd lawer, fodd bynnag, nid oes unrhyw broses ddisgrifiedig i ddatblygu a chymhwyso ymateb efelychu ar gyfer gwelliant ar ôl digwyddiadau clinigol mewn modd y gellir ei sicrhau o ran ansawdd ac y gellir ei atgynhyrchu.

Felly, mae'r fframwaith hwn wedi'i ddatblygu i arwain ymatebion sy'n seiliedig ar efelychu yn dilyn digwyddiadau allweddol ym maes gofal iechyd sy'n seiliedig ar egwyddorion Gwella Ansawdd (QI).

Mae’r fframwaith yn darparu canllaw cam wrth gam ar ddylunio ymyriadau sy’n seiliedig ar efelychiad i wella diogelwch cleifion, gan gynnwys pwy i ymgysylltu â nhw a sut i ymgorffori arfer gorau. Mae'n nodi canllawiau efelychu a diogelwch perthnasol yn ogystal ag egwyddorion gwella ansawdd.

Arweiniwyd y gwaith hwn gan arbenigwyr rhyngbroffesiynol AaGIC mewn efelychu a QI, mewn cydweithrediad â'r Gymdeithas ar gyfer Ymarfer Efelychedig mewn Gofal Iechyd (ASPIH), y Gymdeithas ar gyfer Efelychu yn Ewrop (SESAM) a Gwelliant Cymru. Arweiniodd hyn at gasglu safbwyntiau cenedlaethol a rhyngwladol sydd wedi cyfrannu at y fframwaith.

Nod y fframwaith yw bod yn ddefnyddiol i unrhyw un yn y gymuned iechyd a gofal sy'n dymuno bod yn rhan o'r gwaith o ddatblygu ymateb efelychu yn dilyn digwyddiad neu, yn ehangach, mewn gwelliant drwy ddefnyddio efelychu.