Neidio i'r prif gynnwy

Strategaeth Addysg a Hyfforddiant Seiliedig ar Efelychu Cymru Gyfan

Mae addysg a hyfforddiant ar sail efelychu (SBET) yn parhau i chwarae rhan bwysig wrth gyfrannu at addysg a hyfforddiant y gweithlu gofal iechyd.

Bydd y strategaeth hon yn gosod y cyfeiriad ar gyfer dull cydweithredol a chyd gysylltiedig o ymdrin â SBET rhyngbroffesiynol a hygyrch o ansawdd uchel ar draws y gweithlu gofal iechyd yng Nghymru am y pum mlynedd nesaf.

Mae pwysigrwydd cleifion, defnyddwyr gwasanaeth a dysgwyr wrth wraidd y strategaeth, gyda phwyslais cryf ar ddysgu cydweithredol a gwella diogelwch cleifion a defnyddwyr gwasanaeth, profiadau a chanlyniadau sy’n gost-effeithiol.

Cafodd y strategaeth ei datblygu a'i hadolygu mewn ymgynghoriad â'r gymuned SBET gofal iechyd, cynrychiolwyr lleyg a rhanddeiliaid allweddol eraill i sicrhau ei pherthnasedd i addysg a hyfforddiant gweithlu gofal iechyd Cymru.

 

Crynodeb - Strategaeth Addysg a Hyfforddiant Seiliedig ar Efelychu Cymru Gyfan

Strategaeth Lawn – Strategaeth Addysg a Hyfforddiant Seiliedig ar Efelychu Cymru Gyfan

 

Mae crynodeb am ddatblygiad y strategaeth ar gael yn y Cyfnodolyn Cenedlaethol Efelychiad Gofal Iechyd (International Journal of Healthcare Simulation).

Ers lansio'r strategaeth i ddechrau, mae fframwaith wedi cael ei ddatblygu i ffurfioli'r broses o gymhwyso dysgu seiliedig ar efelychiad yn dilyn digwyddiad argyfyngus.

Arweiniwyd y gwaith hwn gan arbenigwyr rhyngbroffesiynol AaGIC ym maes efelychu a gwella ansawdd. Fe'i crëwyd mewn cydweithrediad â'r Gymdeithas Ymarfer Efelychol mewn Gofal Iechyd (ASPIH), y Gymdeithas Efelychu yn Ewrop (SESAM) a Gwelliant Cymru. Felly, derbyniodd ei ddyluniad fewnbwn o safbwyntiau cenedlaethol a rhyngwladol.

Mae'r fframwaith yn ganllaw cam wrth gam ar sut i ddefnyddio ymyriadau seiliedig ar efelychiadau ar gyfer arfer gorau ac yn y pen draw gwella diogelwch a lles cleifion. Mae'n darparu cynllun 5 cam syml y gall unrhyw un ei ddilyn, fel y gellir cynnal gweithdrefnau mewn modd diogel sydd wedi'i ystyried yn dda.

Gellir trafod unrhyw faterion a nodir yn agored fel y gellir eu dadansoddi gyda'r bwriad o optimeiddio prosesau. Bydd gweithwyr ar bob lefel yn gallu gweithio gyda'i gilydd yn fwy llyfn. Gallai'r rhai sy'n cymryd rhan gynnwys cleifion, meddygon, nyrsys, gweithwyr gofal iechyd proffesiynol perthynol, staff ategol, rheolwyr, a mwy.

Mae'r fframwaith hefyd yn galluogi cylchoedd cyflym o “brofi a methu”, sydd yn y pen draw yn golygu pan fydd gwaith yn cael ei wneud mewn bywyd go iawn, ei fod eisoes wedi'i optimeiddio ar gyfer y canlyniadau gorau.

Rydym yn gobeithio darparu straeon llwyddiant y strategaeth a'r fframwaith i chi yn yr amser i ddod.