Mae amrywiaeth o gyfleoedd lleoli ar gael mewn gofal sylfaenol isod.
Rydym hefyd yn gweithio'n galed i ddatblygu mwy, gyda chymorth gan eich academi leol.
Mae lleoliadau meddygol ym maes gofal sylfaenol yn cael eu trefnu gan Brifysgol Caerdydd ac Abertawe. I gael gwybod mwy, cysylltwch â Phrifysgol Caerdydd drwy UGMedicGPRecruitment@cardiff.ac.uk neu Brifysgol Abertawe drwy a.pavey@swansea.ac.uk.
Mae lleoliadau Meddygon Cyswllt ym maes gofal sylfaenol yn cael eu trefnu gan Brifysgol Abertawe a Bangor. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Phrifysgol Abertawe drwy a.pavey@swansea.ac.uk. Bydd manylion o Fangor yn dod yn fuan.
Trefnir lleoliadau myfyrwyr fferylliaeth mewn gofal sylfaenol drwy'r hwyluswyr lleoliadau clinigol israddedig. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â'n tîm fferylliaeth trwy HEIW.FPUPP@wales.nhs.uk.
Rydym yn ehangu lleoliadau ar gyfer myfyrwyr nyrsio mewn Ymarfer Cyffredinol.
Os hoffech ragor o wybodaeth am hyn neu os ydych yn cynrychioli practis meddyg teulu a hoffai gynnal myfyriwr nyrsio, cysylltwch â'n Tîm Gofal Sylfaenol drwy HEIW.PrimaryCare@wales.nhs.uk.
Mae gennym hefyd Gwestiynau Cyffredin ar gyfer lleoliadau nyrsio mewn practisau meddygon teulu ar gyfer gwesteiwyr lleoliadau a myfyrwyr.
Gall rhaglen raddedigion y GIG nawr gynnig lleoliadau mewn ymarfer cyffredinol. Bydd hyn yn rhoi dealltwriaeth o ofal sylfaenol i reolwyr ac arweinwyr y dyfodol y GIG i fwrw ymlaen yn eich rôl. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â HEIW.PrimaryCare@wales.nhs.uk.
O fewn y rhaglen sylfaen, cynigir lleoliadau ymarfer cyffredinol mewn dwy ffordd:
Yn y ddau achos, bydd meddyg teulu a enwir yn darparu goruchwyliaeth glinigol ar gyfer y flwyddyn. Trefnir lleoliadau yn gyffredinol rhwng mis Medi a Rhagfyr, cyn dyddiadau dechrau mis Awst canlynol. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â HEIW.FoundationSchool@wales.nhs.uk.
Os ydych yn cynrychioli practis meddyg teulu a hoffai gynnal lleoliad sylfaen, cysylltwch â HEIW.GPTraining@wales.nhs.uk.
Mae cyfleoedd lleoli ar gael o fewn hyfforddiant arbenigol meddygon teulu.