Neidio i'r prif gynnwy

Ffarmacoleg glinigol

Diffinnir hyfforddiant mewn CPT yn y cwricwlwm hyfforddi arbenigeddau, ac mae fel arfer wedi’i gyfuno â hyfforddiant fel meddyg cyffredinol..

Mae’r cymwyseddau yn adeiladu ar hyfforddiant craidd gan gynnwys meddygaeth acíwt lefel un, a geir ym mlynyddoedd un a dau hyfforddiant arbenigol. Mae hyfforddiant craidd a chymwyseddau meddygaeth acíwt yn adeiladu ar hyfforddiant mewn cynnal a dehongli ymchwiliadau clinigol gan gynnwys treialon clinigol; optimeiddio’r defnydd therapiwtig o gyffuriau; canfod a dadansoddi effeithiau andwyol cyffuriau; cyfrannu at werthuso meddyginiaethau; a rheoli gwenwyno. Bydd hyfforddeion fel arfer yn datblygu diddordeb clinigol arbenigol (er enghraifft, rheoli risg gardiofasgwlaidd, tocsicoleg).

Dylai unigolion sydd â diddordeb mewn gyrfa academaidd ystyried ymgeisio am gymrodoriaeth glinigol academaidd (ACF), yn benodol un sy’n cynnwys amlygiad i CPT. Bydd rhai hyfforddeion o’r fath yn defnyddio’u hamser academaidd i baratoi cais am gyllid ar gyfer cymrodoriaeth ymchwil (er enghraifft, gan MRC, Wellcome, BHF) a fyddai’n arwain at PhD ac wedyn yn gwneud cais am swydd fel darlithydd clinigol academaidd. Bydd hyn yn creu llwybr gyrfa clir. Mae CPT yn un o’r ychydig ddisgyblaethau academaidd sy’n cyfuno’n naturiol â chadw diddordeb cyffredinol eang mewn therapwiteg sy’n rhychwantu meddygaeth gyffredinol.

Gall gyrfaoedd y tu allan i’r byd academaidd neu’r GIG hefyd ysgogi’r meddwl a bod yn foddhaus ac mae gan y diwydiant fferyllol a’r cyrff rheoleiddio cyffuriau ddiddordeb arbennig mewn recriwtio ffarmacolegwyr sydd wedi cael hyfforddiant clinigol.

Dolenni defnyddiol

Cysylltiadau