Mae ymarfer clinigol Imiwnoleg, yn ôl diffiniad Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) yn cynnwys gweithgarwch clinigol a labordy sy’n ymwneud ag astudio, gwneud diagnosis a rheoli cleifion â chlefydau sy’n deillio o anhwylder ar fecanweithiau imiwnolegol, a chyflyrau lle mae ystumio imiwnolegol yn rhan bwysig o therapi.
Yn y DU, mae ymarfer imiwnoleg yn cyd-fynd i raddau helaeth â diffiniad y WHO, gydag Imiwnolegwyr yn darparu gwasanaethau clinigol a labordy cyfun i gleifion â diffyg imiwnedd, clefydau awtoimiwn, fasgwlitis systemig ac alergeddau.
Mae Imiwnoleg Glinigol wedi esblygu yn ystod y ddau ddegawd diwethaf o sylfaen labordy’n bennaf i arbenigedd clinigol a labordy cyfun. Mae’r rhan fwyaf o waith clinigol Imiwnolegwyr yn ymwneud â chleifion allanol ac mae’n cynnwys diffyg imiwnedd sylfaenol, alergeddau, clefyd rhiwmatig awtoimiwn a fasgwlitis systemig (ar y cyd gyda Rhiwmatolegwyr), clinigau pediatrig ar y cyd ar gyfer plant â diffyg imiwnedd ac alergeddau a chlinigau trwytho imiwnoglobwlin ar gyfer oedolion â diffyg gwrthgyrff. O ran labordai, mae Imiwnolegwyr Ymgynghorol yn gyfrifol am gyfarwyddo gwasanaethau imiwnoleg diagnostig a chyflawni ystod eang o ddyletswyddau gan gynnwys cysylltu â chleifion, dehongli a dilysu canlyniadau, sicrhau ansawdd a datblygu biobrofion.
Mae amrywiaeth y problemau clinigol y bydd Imiwnolegwyr yn dod ar ei traws a’r cyfle i ddatrys problemau diagnostig anodd mewn cleifion â diffyg imiwnedd heb eu diffinio neu glefydau aml-system cymhleth yn creu cyffro deallusol, heb sôn am y cyffro o weithio mewn arbenigedd, sydd â chysylltiad agos â gwybodaeth arloesol a therapïau imiwnogyfeiriadurol.
Mae gan Gymru un swydd ar gyfer Imiwnoleg Glinigol, ac sydd wedi’i lleoli yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd.
Cadeirydd STC a Chyfarwyddwr y Rhaglen Hyfforddi - Dr Stephen Jolles