Neidio i'r prif gynnwy

Meddygaeth Acíwt

Mae meddygon sydd wedi cymhwyso mewn Meddygaeth Fewnol Acíwt (AIM) yn darparu gwerthusiad cychwynnol, diagnosis, a thriniaeth ar gyfer cleifion sy'n oedolion sydd angen asesiad ysbyty ar gyfer unrhyw gyflwr meddygol brys, waeth pa system organau allai fod yn rhan o'r broses. Mae hyn fel arfer yn digwydd naill ai ar Uned Feddygol Aciwt (AMU) neu, i gleifion nad oes angen mynediad i'r ysbyty, mewn uned gofal brys symudol / un diwrnod.

Mae AIM yn arbenigedd ifanc sydd wedi ehangu ac esblygu'n gyflym i fod yn gyfrannwr mawr at ddarparu gofal iechyd brys ac argyfwng yn y DU. Mae tystiolaeth yn dangos bod presenoldeb Meddygon Acíwt mewn ysbytai sydd â gofal heb ei drefnu yn lleihau'r risg o farwolaethau a hyd aros yn yr ysbyty, heb gynyddu cyfraddau ail-dderbyn.

HYFFORDDI YNG NGHYMRU

Mae gan raglen hyfforddi arbenigol uwch Cymru mewn meddygaeth acíwt un lle ar bymtheg.  Mae cylchdro ar wahân yng ngogledd a de Cymru fel y bydd hyfforddeion yn gallu disgwyl aros yn un o'r ardaloedd hyn am y cynllun hyfforddi pedair blynedd i gyd.

Bydd gan hyfforddeion ar gylchdro gogledd Cymru swyddi yn Ysbyty Maelor Wrecsam, Ysbyty Glan Clwyd yn y Rhyl, ac Ysbyty Gwynedd ym Mangor. Mae cylchdro de Cymru yn cynnwys Ysbyty Treforys yn Abertawe, Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn Llantrisant, Ysbyty'r Tywysog Siarl ym Merthyr Tudful, Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd, Ysbyty Brenhinol Gwent yng Nghasnewydd, ac Ysbyty Athrofaol Y Faenor yng Nghwmbrân.

Mae hyfforddeion meddygaeth aciwt yng Nghymru yn elwa ar addysgu rheolaidd ledled Cymru a'n 'hysgol haf' breswyl blynyddol, yn ogystal â llwybr hyfforddi newydd mewn gofal uwchsain pwynt. Rhoddir cefnogaeth lawn i hyfforddeion i ddatblygu un o'r ystod eang o sgiliau arbenigol sy'n ffurfio gofyniad unigryw'r rhaglen hyfforddi.

CLYWCH GAN EIN HYFFORDDEION PRESENNOL

Cliciwch yma i ddarllen cyfweliad gyda hyfforddai meddygaeth fewnol aciwt (AIM), Dr Lliwen Jones.