Neidio i'r prif gynnwy

Gastroenteroleg

Mae Gastroenteroleg yn arbenigedd meddygol cyffrous sy’n ehangu, ers cyflwyno’r rhaglen sgrinio coluddion genedlaethol ac o ganlyniad i’r cynnydd mewn achosion o glefyd yr afu.

Mae rhaglen hyfforddi Cymru’n cynnig achrediad deuol mewn gastroenteroleg a meddygaeth fewnol gyffredinol (GIM), gyda chylchdroeon drwy gyfuniad o ysbytai athrofaol ac ysbytai cyffredinol dosbarth ym mhob rhan o Gymru. Mae hyfforddiant yn cael ei ddarparu ym mhob un o’r prif feysydd is-arbenigol gan gynnwys hepatoleg, maethiad, IBD ac endosgopi. Mae cynllun hyfforddi endosgopi newydd (SPRINT) ar gael i bob hyfforddai newydd, gan hwyluso hyfforddiant cyflymach mewn endosgopi GI uwch. Mae Athrofa Therapïau Lleiaf Ymyrrol Cymru (WIMAT) yn ganolfan o safon ryngwladol, sy’n cynnig mynediad lleol at gyrsiau hyfforddi mewn efelychiad endosgopig, endosgopi GI uwch ac isaf, a hyfforddi’r hyfforddwr endosgopig.

Mae swyddi ST6 blynyddol ar gael i roi profiad gwell mewn ERCP/EUS/Hepatoleg (wedi’u lleoli yn Ysbyty Brenhinol Gwent) a maethiad/IBD/ (wedi’u lleoli yn Ysbyty Athrofaol Cymru). Mae cyfleoedd rheolaidd hefyd i gael profiad y tu allan i’r rhaglen mewn ymchwil a chymrodoriaethau hyfforddi mewn arweinyddiaeth glinigol mewn safleoedd ledled Cymru.

Mae hyfforddeion gastroenteroleg yn gysylltiedig â datblygiad hyfforddiant ar lefel leol a chenedlaethol, gyda chynrychiolwyr ar bwyllgorau WAGE (Cymdeithas Gastroenteroleg ac Endosgopi Cymru), WETN (Rhwydwaith Hyfforddiant Endosgopi Cymru) a BSG (Cymdeithas Gastroenteroleg Prydain).

Mae’r STC Gastroenteroleg yn hapus i ateb unrhyw ymholiadau sy’n ymwneud â’r rhaglen hyfforddi yng Nghymru, gweler y manylion cyswllt isod.
 

Hyfforddiant gastroenteroleg

Cysylltwch â Chyfarwyddwr y Rhaglen am fwy o wybodaeth.

 

Dolenni a dogfennau gastroenteroleg