Neidio i'r prif gynnwy

Adsefydlu

Meddygaeth adsefydlu yw’r arbenigedd sy’n ymwneud ag atal, gwneud diagnosis, trin a rheoli adsefydlu pobl â chyflyrau meddygol sy’n achosi anableddau.

Cafodd ei ddatblygu’n bennaf i ddiwallu anghenion oedolion ifanc a phobl o oedran gweithio, ond mae agweddau ar yr arbenigedd, yn enwedig y rhai sy’n ymwneud â chymhorthion technegol, darparu cadeiriau olwyn, orthotigau neu brostheteg yn berthnasol i bobl o bob oed. Y prif nodau yw canfod y namau sy’n cyfyngu ar weithgarwch a thasgau dyddiol; optimeiddio gweithrediadau corfforol a gwybyddol; ac addasu ffactorau personol ac amgylcheddol i alluogi mwy o gyfranogiad ac ansawdd bywyd gwell.

Mae meddygaeth adsefydlu’n ymdrin â nifer fawr o gyflyrau sy’n achosi anabledd. Mae’r rhan fwyaf yn rhai a geir, fel anaf trawmatig i’r ymennydd, strôc, anaf i linyn asgwrn y cefn, sglerosis ymledol a cholli braich neu goes. Bydd cyflyrau cynhenid neu rai sy’n datblygu yn ystod plentyndod, fel parlys yr ymennydd, nychdod cyhyrol a diffyg braich neu goes, yn parhau i oedolaeth a bydd angen cymorth, cefnogaeth a chyngor parhaus. Y gwasanaethau arbenigol sy’n delio â’r rhain yw adsefydlu niwrolegol a llinyn asgwrn y cefn, adsefydlu ar ôl colli neu ddiffyg braich neu goes a phrostheteg, ac adsefydlu cyhyrysgerbydol.

Mae gan ymgynghorwyr meddygaeth adsefydlu arbenigedd arbenigol hefyd mewn technolegau cynorthwyol, gan gynnwys cyfarpar rheolaeth amgylcheddol, cadeiriau olwyn ac orthoteg; nid yw’r rhain yn benodol i un clefyd ac maent yn cynnwys ystod eang o anableddau cymhleth.

Pam dewis meddygaeth adsefydlu?

Bydd meddygaeth adsefydlu’n apelio at y meddygon hynny sy’n mwynhau gweithio mewn lleoliad amlddisgyblaethol i leddfu effaith anabledd ar fywydau pobl dydd pobl. Bydd meddygon meddygaeth adsefydlu’n helpu cleifion a’u teuluoedd drwy gyfnodau o newid a rhaid gallu rheoli’r agweddau corfforol, emosiynol ac ymddygiadol salwch sy’n achosi anabledd. Bydd llawer o’r cleifion wedi profi trawma sylweddol, strôc, neu niwrolawfeddygaeth a bydd yr hyder i ddelio ag ystod eang o ddiagnosisau a chleifion gwael yn hanfodol. Mae adsefydlu’n yrfa a fydd yn apelio at y sawl a fyddai’n mwynhau hyblygrwydd yn eu hyfforddiant neu swydd wedi hynny o ran oriau ac ymrwymiadau gwaith. Mae absenoldeb ymrwymiadau meddygol acíwt ac ar-alwad yn caniatáu amser i wneud ymchwil, rolau anghlinigol a rheoli. Mae llawer o ymgynghorwyr yn datblygu diddordeb mewn gwaith meddygol-gyfreithiol.

Cysylltiadau

  • Dr Jenny Thomas - Cyfarwyddwr y Rhaglen Hyfforddi a Chadeirydd STC, wedi’i lleoli yn Ysbyty Rookwood, Caerdydd.

Dolenni defnyddiol

No matching content found.