Neidio i'r prif gynnwy

Meddygaeth liniarol

Mae hyfforddiant arbenigol mewn meddygaeth liniarol yng Nghymru’n cynnwys profiad hyfforddi cynhwysfawr i’r sawl sy’n dymuno dilyn gyrfa hyd lefel Ymgynghorydd.

Ceir profiad o ofal lliniarol arbenigol i gleifion mewnol ar draws y cylchdro. Mae hyn yn cynnwys profiad yn y Ganolfan Oncoleg Ranbarthol yn Ysbyty Felindre a gyda’r tîm gofal lliniarol ysbyty yn Ysbyty Athrofaol Cymru. Ceir profiad ysbyty hefyd yn ysbytai Abertawe yn ystod cyfnod yn Nhŷ Olwen.

Beth yw meddygaeth liniarol?

Mae meddygaeth liniarol yn arbenigedd cymharol newydd a gafodd ei gydnabod gyntaf fel arbenigedd gan Goleg Brenhinol y Meddygon yn 1987. Mae wedi parhau i dyfu o ran maint a dylanwad ers hynny. Wedi deillio’n wreiddiol o’r angen i wella ansawdd bywyd i bobl â chanser datblygedig ac mae ei wreiddiau yn y mudiad hosbis, mae’r arbenigedd yn gynyddol berthnasol i unrhyw glaf â salwch datblygedig, cynyddol sydd angen mewnbwn arbenigol i wella ansawdd eu bywyd. Cymeradwywyd hyn yn ystod y blynyddoedd diwethaf yn sgil cyhoeddi sawl Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol, fel Meddygaeth Arennol, Cyflyrau Tymor Hir a Chardioleg. Disgrifir ei le o fewn rheoli canser mewn manylder yng Nghanllaw NICE “Improving Supportive and Palliative Care for Adults with Cancer, 2004.”

Mae natur gyfannol meddygaeth liniarol yn cynnwys parthau corfforol, seicogymdeithasol a/neu ysbrydol gofal ac oherwydd, mae gweithio amlbroffesiwn da yn hanfodol i’w llwyddiant. Mae gofal lliniarol yn cael ei ddarparu mewn amrywiaeth o leoliadau, gan gynnwys hosbisau, unedol gofal lliniarol, mewn ysbytai ac yn y gymuned. Mae llawer o wasanaethau hosbis i gleifion mewnol a chymunedol yng ngofal y sector elusennol, gyda chefnogaeth y GIG. Mae meddygon yn gysylltiedig â rheolaeth uniongyrchol cleifion mewnol ac allanol hosbisau ac maent fel arfer yn gweithredu fel cynghorwyr mewn timau ysbyty a chymunedol. Mae darparu addysg a hyfforddiant i amrywiaeth o grwpiau proffesiynol i wella safon gofal lliniarol cyffredinol yn digwydd ochr yn ochr â darpariaeth uniongyrchol gwasanaethau arbenigol.

Oherwydd natur eu gwaith, mae meddygon meddygaeth liniarol yn mwynhau perthynas waith agos ag amrywiaeth o gydweithwyr gan gynnwys rhai mewn practis cyffredinol, oncoleg feddygol a chlinigol ac arbenigeddau meddygol a llawfeddygol eraill.

Dewis gyrfa mewn meddygaeth liniarol

Gall meddygaeth liniarol fod yn foddhaus iawn gyda chymysgedd dda o waith clinigol a chyfleoedd i ddibynnu ar sgiliau a chrebwyll clinigol datblygedig iawn. Mae’n arbenigedd ifanc gyda heriau a chyfleoedd newydd ar gyfer gyrfa amrywiol a newidiol.

Ceir ymdeimlad o gyflawniad drwy bennu nodau gofal realistig gyda chleifion a gofalwyr i wella ansawdd bywyd. Mae amser i roi gofal cyfannol wedi’i ymgorffori yn y gwaith ac mae hynny’n cael ei werthfawrogi gan gleifion a staff fel ei gilydd. Mae cydweithio’n effeithiol fel tîm gydag amrediad eang o gydweithwyr arbenigol yn creu amgylchedd gweithio cefnogol. Mae cyfle i weithio mewn amrywiaeth o leoliadau yn ystod yr hyfforddiant, Mae swyddi ymgynghorol yn amrywiol o ran eu strwythur gyda’r posibilrwydd o ddatblygu diddordebau arbennig. Mae dylanwadu ar y ddarpariaeth gofal lliniarol ar draws y gymuned iechyd ehangach drwy addysgu, hyfforddiant a datblygu gwasanaethau yn rhoi boddhad mawr i’r swydd.

Dolenni defnyddiol

Cysylltiadau

No matching content found.