Mae endocrinoleg a diabetes yn bwnc eang iawn ac o ganlyniad mae’n un sy’n apelio at hyfforddeion ac ymgynghorwyr fel ei gilydd, gan ei fod yn cwmpasu mecanweithiau sylfaenol ffisioleg a ffarmacoleg, ynghyd â’r gallu i wella ansawdd a chanlyniadau tymor hir drwy reoli clefydau’n effeithiol ac yn aml eu gwella.
Mae clefydau endocrin a metabolig ymhlith y rhai mwyaf cyffredin a welir ym mhoblogaeth y DU, ac maent ar gynnydd mewn amlder ac effaith o fewn iechyd y genedl, gan bwysleisio’r angen i barhau ag ymdrechion i wella’r ddarpariaeth gofal iechyd yn ein harbenigedd. Mae clefydau endocrin a diabetes yn effeithio ar bob un o systemau ffisiolegol y corff sy’n golygu bod gan ein harbenigwyr ystod eang o sgiliau ac arbenigeddau ac maent yn gwneud cyfraniad pwysig at feddygaeth gyffredinol yr ystyr ehangaf.
Mae gan yr arbenigedd rywbeth i’w gynnig i bawb. Yn hanesyddol mae endocrinoleg a diabetes wedi bod yn flaenllaw mewn ymchwil wyddonol sylfaenol a chlinigol gan sicrhau bod sail dystiolaeth gref i’r hyn rydym yn ei wneud. Mae pob hyfforddai ac arbenigwr yn cael y cyfle i gyfrannu at y sail dystiolaeth honno, sydd wedi arwain at gymaint o ddatblygiadau arloesol yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae llawer o gyflyrau cyffredin yr ydym yn helpu i’w rheoli, ac wrth wneud hynny rydym yn cydweithio’n glos â llawer o gydweithwyr amlbroffesiwn. Daw llawer o’n hysgogiadau deallusol am fod cymaint o’r clefydau rydym yn dod ar eu traws yn rhai anghyffredin, sy’n golygu heriau diagnostig a therapiwtig arbennig. Mae hyfforddiant eang mewn endocrinoleg a diabetes yn fodd i symud ymlaen i swyddi arbenigol mewn ystod eang o leoliadau o’r ysbyty lleiaf i ganolfan atgyfeirio drydyddol fawr, o leoliad cymunedol i adran academaidd mewn Prifysgol.
Mae hon yn rhaglen hyfforddi Cymru gyfan sy’n ymestyn ar draws deg canolfan yn y De a dwy yn y Gogledd Ddwyrain, Mae gan bob canolfan brofiad helaeth ym mhob agwedd ar ddiabetes, ac endocrinoleg gyffredinol, ac mae profiad o lipidoleg ac endocrinoleg drydyddol ar gael yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd. Bydd yr hyfforddeion i gyd yn cael profiad mewn ysbyty trydyddol. Mae lleoliad y canolfannau hyfforddi’n galluogi hyfforddeion i gael profiad mewn practisau canol dinas, maestrefol a gwledig.
Mae safon yr ymarfer clinigol yng Nghymru gystal ag yn unman arall yn y DU ond mae iddo’r fantais ychwanegol o amgylchedd braf, ffordd o fyw o ansawdd uchel, prisiau tai rhesymol, ysgolion o safon uchel, cefn gwlad hyfryd, ac o’r herwydd, y cyfle i gael cydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith. Mae’r holl ganolfannau hyfforddi o fewn awr o yrru i ddinasoedd mawr, eu hamwynderau a meysydd awyr yn Ne Cymru (Abertawe a Chaerdydd) a Gogledd Cymru (Lerpwl a Manceinion).
Mae gan y rhaglen hyfforddi diabetes ac endocrinoleg enw da ers amser am ddarparu addysg a hyfforddiant llwyddiannus. Mae’r canolfannau hyfforddi’n cael eu cydnabod am ansawdd eu hyfforddiant mewn is-arbenigeddau a meddygaeth fewnol gyffredinol, ac mae pob un ohonynt yn ganolfan fywiog o raddedigion ac israddedigion sy’n sicrhau bod digonedd o gyfleoedd i’r hyfforddeion i ddysgu drwy, a chyfrannu at, raglenni addysgu rhanbarthol a lleol.Mae gan y rhaglen hyfforddi diabetes ac endocrinoleg enw da ers amser am ddarparu addysg a hyfforddiant llwyddiannus. Mae’r canolfannau hyfforddi’n cael eu cydnabod am ansawdd eu hyfforddiant mewn is-arbenigeddau a meddygaeth fewnol gyffredinol, ac mae pob un ohonynt yn ganolfan fywiog o raddedigion ac israddedigion sy’n sicrhau bod digonedd o gyfleoedd i’r hyfforddeion i ddysgu drwy, a chyfrannu at, raglenni addysgu rhanbarthol a lleol.
Bydd pob hyfforddai diabetes ac endocrinoleg yn cael un Goruchwyliwr Addysgol am eu holl gyfnod hyfforddi o bum mlynedd. Mae gan y Goruchwylwyr Addysgol hyn, sydd wedi’u dewis yn ofalus, y gallu, y diddordeb a’r brwdfrydedd i gynorthwyo eu hyfforddeion. Mae’r strwythur hwn yn sicrhau dilyniant a barn bersonol a gwybodaeth ar ddatblygiad a gofynion yr hyfforddai. Ni fydd yr hyfforddai’n gweithio’n uniongyrchol i’w Goruchwyliwr Addysgol, gan greu bwlch rhwng goruchwyliaeth glinigol ac addysgol a sicrhau cyngor diduedd. Mae goruchwyliaeth addysgol o’r fath sy’n canolbwyntio ar yr hyfforddai wedi cael croeso brwd ac mae wedi gwella’r berthynas rhwng hyfforddeion a’u Goruchwylwyr Addysgol, gyda’r olaf yn aml yn dod yn fentoriaid i’w hyfforddeion wrth iddynt ddechrau ar yrfa fel ymgynghorwyr newydd eu penodi.
Yn ychwanegol at hyfforddiant mewn is-arbenigeddau’n lleol, mae pum niwrnod o hyfforddiant is-arbenigol gorfodol yn cael eu trefnu bob blwyddyn sy’n ymdrin â’r cwricwlwm diabetes ac endocrinoleg dros gylch o bedair blynedd. Disgwylir i hyfforddeion gymryd rhan hefyd yng nghyfarfodydd i raddedigion Cymdeithas Endocrin a Diabetes Cymru a gynhelir ddwywaith y flwyddyn gyda phresenoldeb o bob canolfan hyfforddi. Mae addysgu meddygaeth fewnol gyffredinol gorfodol o ansawdd uchel hefyd yn cael ei ddarparu.
Mae digonedd o gyfleoedd ymchwil ar gael, yn enwedig yng Nghaerdydd, Abertawe a Wrecsam, gyda hyd at bedwar o hyfforddeion y tu allan i’r rhaglen ar unrhyw adeg. Bydd mwyafrif yr hyfforddeion yn ymgymryd â chyfnod o ymchwil yn ystod eu hyfforddiant ac mae safon y cyfleoedd yn cael ei hadlewyrchu yn nifer uchel yr hyfforddeion sy’n gwneud ymchwil y tu allan i’r rhaglen y dyfernir graddau uwch (85%), MD neu PhD iddynt.
Ceir hyfforddiant asesu pwrpasol sy’n seiliedig ar wybodaeth fel rhan o ddyddiau addysgu’r cwricwlwm is-arbenigedd. Hyd yma mae gan raglen Cymru gyfradd basio o 100% ar y cynnig cyntaf. Mae pob hyfforddai sy’n cwblhau’r rhaglen hyfforddi bum mlynedd yng Nghymru wedi llwyddo i gael swydd ymgynghorydd o fewn chwe mis o’u CCT yn ystod y deng mlynedd diwethaf.