Neidio i'r prif gynnwy

Haematoleg

Yn y DU, mae haematoleg glinigol yn arbenigedd dwys, cyffrous a boddhaus sy’n cynnwys ymarfer clinigol a labordy.

O ganlyniad i’r rôl ddeuol hon, mae gan haematolegwyr ran flaenllaw ym mhob cam o reoli cleifion, o’r ymweliad cyntaf â chlinig o asesiadau /diagnosis mewn labordy, ac wedyn ymlaen i driniaeth. Mae gofal clinigol yn cael ei ddarparu mewn amgylcheddau cleifion mewnol ac allanol ac mae’r haematolegydd yn aml yn cyfrannu at ddiagnosis a rheolaeth mewn arbenigeddau eraill yn y lleoliad gofal dwys. Mae’r ymagwedd gyfannol hon at ofal clinigol yn un o uchafbwyntiau’r arbenigedd.

Mae haematoleg yn datblygu’n gyflym o ran datblygiadau therapiwtig ac mae’n apelio i rai â diddordeb mewn ymchwil. O fewn haematoleg mae cyfle i ddatblygu diddordebau arbennig ymhellach mewn amrywiaeth eang o feysydd clinigol a labordy e.e. haemogloginopathiau, haemostasis a thrombosis, meddygaeth drallwyso, haematoleg falaen, trawsblaniadau. Gall yr arbenigedd apelio at amrywiaeth eang o unigolion gan gynnwys rhai a hoffai gyfuno gyrfa glinigol ac academaidd. Mae gweithlu’r haematolegwyr ymgynghorol yn ehangu ar hyn o bryd.

Mae mynediad i hyfforddiant arbenigol mewn haematoleg yn digwydd ar ôl cwblhau cymwyseddau hyfforddiant craidd (CMT, ACCS) ac mae angen llwyddo yn rhan 1 yr arholiad MRCP.

Hyd yr hyfforddiant arbenigol yw tua phum mlynedd. I gwblhau’r hyfforddiant yn foddhaol bydd angen i’r hyfforddai gael y cymwyseddau a amlinellir yn y cwricwlwm generig sy’n gymwys i bob arbenigedd ar gyfer meddygon, a rhai’r cwricwlwm haematoleg. I gwblhau’r hyfforddiant rhaid i’r hyfforddai hefyd gael, drwy arholiad, yr MRCP a FRCPath llawn. Gan fod arbenigwyr mewn haematoleg yn ymwneud yn uniongyrchol â gofal cleifion a rheoli labordai patholeg haematoleg, mae hyfforddiant arbenigol yn cynnwys y ddwy elfen hon, gan gynnwys hyfforddiant mewn meddygaeth drallwyso. Mae hyfforddiant arbenigol yn dechrau gyda chyflwyniad i arferion gweithio labordai a bydd wedyn yn parhau drwy amrywiaeth o swyddi a fydd yn:

  1. cynnwys haematoleg graidd a diddordeb arbennig, gan gynnwys oncoleg haematolegol, trawsblannu, haematoleg bediatrig, haemostasis a thrombosis ac ymarfer trallwyso gwaed
  2. caniatáu bod yr hyfforddai’n dod i gysylltiad ag ystod eang o glefydau’r gwaed a mêr yr esgyrn, rhai sylfaenol ac eilaidd i glefydau systemig eraill
  3. caniatáu hyfforddiant haematoleg mewn amrywiaeth o leoliadau gan gynnwys yr amgylchedd academaidd, Ysbyty Cyffredinol Dosbarth, ac Unedau Haematoleg Bediatrig a Thrallwyso Gwaed

Gall hyfforddiant arbenigol gael ei ymestyn i gynnwys hyfforddiant llai nag amser llawn. Gellir cymeradwyo blwyddyn o hyfforddiant arbenigol ar gyfer ymchwil, sy’n berthnasol i’r arbenigedd ac mewn maes a gymeradwyir gan Gadeirydd neu Ysgrifennydd Pwyllgor Cynghori’r Arbenigedd. Bydd cymeradwyaeth yn ystyried gwerth hyfforddiant generig yr ymchwil ac unrhyw brofiad clinigol a geir yn ystod cyfnod yr ymchwil. Ar ôl dyfarnu Tystysgrif Cwblhau Hyfforddiant (CCT) bydd haematolegydd yn gallu gweithio fel arbenigwr ymgynghorol â’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a bydd yn meddu ar y cymwyseddau gofynnol i wneud hynny, yn ogystal â datblygu arbenigedd mewn diddordeb arbennig pellach os dymunir.

Dolenni defnyddiol

Cysylltiadau