Meddygaeth Awdiofestibwlaidd yw’r arbenigedd sy’n ymwneud â gwneud diagnosis a rheoli anhwylderau’r clyw a chydbwysedd mewn oedolion a phlant.
Yn ychwanegol at yr agweddau adsefydlu/sefydlu ar yr anhwylderau cronig sy’n rhan o’r arbenigedd, mae hyfforddiant meddygol cyffredinol eang yn galluogi ymchwil a rheolaeth feddygol briodol o’r llu o gyflyrau otolegol ymylol ac sy’n deillio o’r brif system nerfol ganolog, sy’n arddangos symptomau awdio-festibwlaidd acíwt, gan gynnwys anhwylderau heintus, llidiol, fasgwlaidd, trawmatig a metabolaidd.
Mabwysiedir ymagwedd amlddisgyblaethol tuag at y problemau hyn, gan gynnwys tinitws, dysacuses ac anhwylderau cyfathrebu hefyd, gyda’r nod o wella llesiant ac ansawdd bywyd yr unigolyn dan sylw.
Mae hyfforddiant yn yr arbenigedd yn cynnwys agweddau ar Baediatreg Ddatblygiadol, Geriatreg, Geneteg Feddygol, Niwroleg, Offthalmoleg, Otolaryngoleg a Seiciatreg, yn ogystal ag MSc mewn Meddygaeth Awdiolegol. Mae amrediad y cyfleusterau hyfforddi’n hwyluso ymchwil barhaus a datblygiad mewn dulliau atal ar gyfer y ddau anabledd synhwyraidd mwyaf cyffredin.
Mae swydd Cymru ar gyfer Meddygaeth Awdiofestibwlaidd wedi’i chynnwys fel rhan o gynllun hyfforddi Manceinion. Am wybodaeth am y swydd UHW cysylltwch â Chyfarwyddwr y Rhaglen Hyfforddi:
Dr Deepak Rajendrakumar - Cyfarwyddwr y Rhaglen Meddygaeth Awdiofestibwlaidd a’ Cynghorydd Hyfforddiant Hyblyg.
No matching content found.