Dermatoleg yw un o'r rhai mwyaf amrywiol o'r arbenigeddau meddygol. Mae'n un o'r rhesymau mwyaf cyffredin y mae pobl yn ymgynghori â meddyg. Y canser mwyaf cyffredin mewn pobl yw canser y croen (carcinoma cell basal) a'r clefyd mwyaf cyffredin mewn pobl yw acne, sydd hefyd yn dod o dan dermatoelg. Clefyd y croen yw'r trydydd achos mwyaf cyffredin o salwch galwedigaethol. Gall effeithio ar unrhyw un, ar unrhyw oedran (gan gynnwys post mortem).
Gyda chymaint o gyflyrau dan sylw, bydd wastad rhywbeth newydd i'w ddysgu a chi fydd yr arbenigwr bob amser y mae'r meddygon eraill yn gofyn am help.
Rhennir hyfforddiant Dermatoleg Cymru yn rhaglenni gogledd Cymru a'r de.
Mae rhaglen y gogledd yn cylchdroi drwy Wrecsam, Glan Clwyd a Bangor. Yn y de, y cylchdroadau yw Abertawe a Phort Talbot, Casnewydd a Gwent, Caerdydd a Phen-y-bont ar Ogwr.
Mae dermatoleg yng Nghymru ar flaen y gad wrth gynnal ymchwil i'r arbenigedd gyda datblygiad meddyginiaethau newydd, technegau llawfeddygol a ffyrdd o weithio. Yn eich pedair blynedd o hyfforddiant yma, byddwch yn datblygu eich sgiliau fel dermatolegydd cyffredinol ond byddwch yn cael eich annog i ddatblygu diddordeb arbennig mewn is-arbenigeddau fel:
• Alergedd Crwynog
• Dermatoleg Pediatrig
• Llawdriniaeth croen
• Canser y croen
• Ffotodermatoleg
• Dermatoleg Meddygol
Yn ystod eich hyfforddiant, byddwch hefyd yn cael profiad mewn dermatopatholeg, laserau a ffototherapi ac mae cyfleoedd i ddatblygu sgiliau llawfeddygaeth dermatoleg uwch gan gynnwys llawdriniaeth micrograffig Mohs.
Cynigir amser wedi'i warchod yng nghylchdro gogledd a de Cymru am o leiaf unwaith yr wythnos o addysgu ôl-raddedig yn cynnwys rowndiau mawreddog, addysgu dermatopatholeg ac addysgu dermoscopi. Ceir cysylltiadau cryf rhwng adrannau gogledd a de Cymru yn ogystal â'u rhanbarthau cyfagos. Yn y gogledd, mae hyfforddeion hefyd yn ymuno â sesiynau addysgu dermatoleg wythnosol yn rhaglen hyfforddi Rhanbarthol Glannau Mersi ac yn ymgymryd â rhai o'u hymlyniadau mwy arbenigol yn Lerpwl a Manceinion.
Mae cyfleoedd i ddatblygu proffil ymchwil ac addysgu gyda graddau uwch ac addysg feddygol ar gael drwy rwydwaith prifysgolion Cymru.
Byddwch yn derbyn Adolygiad Blynyddol o Gynnydd Clinigol (ARCP) bob blwyddyn a fydd yn edrych ar eich asesiadau yn seiliedig ar le gwaith (WPBAau), myfyrdodau, adroddiadau ac arolygon cleifion. Mae'n ofyniad eich bod yn pasio Arholiad Tystysgrif Arbenigol Dermatoleg yn ystod eich hyfforddiant. Mae'r rhan fwyaf o hyfforddeion yn sefyll yr arholiad hwn ar ddechrau eu blwyddyn ST5. Ar ddiwedd y pedair blynedd, ar yr amod eich bod wedi bodloni'r holl gymwyseddau, byddwch yn dod yn dermatolegydd ymgynghorol.