Neidio i'r prif gynnwy

Meddygaeth alwedigaethol

Nod yr Adran Meddygaeth Alwedigaethol yw darparu gwasanaeth cynghori proffesiynol diduedd, effeithlon o safon uchel i wella ac optimeiddio staff ac iechyd sefydliadol.

Mae Iechyd Galwedigaethol yn cynnig cyngor ar ystod eang o broblemau sy’n gysylltiedig â gwaith, gan gynnwys poen yn y cefn sy’n gysylltiedig â chodi a chario, problemau croen galwedigaethol, straen sy’n gysylltiedig â gwaith, ac amlygiad i bathogenau, carsinogenau ac ymbelydredd ïoneiddio. Hefyd, mae’r Adran Iechyd Galwedigaethol yn darparu gwasanaethau i gyflogwyr masnachol lleol gan gynnwys dosbarthwyr trydan a sawl cwmni bach a chanolig.

Disgwylir i hyfforddeion gynorthwyo â phob agwedd ar waith Adrannau Iechyd Galwedigaethol, boed glinigol neu anghlinigol. Cytunir ar y dyletswyddau rhwng yr hyfforddwr a’r sawl a benodwyd, gyda golwg ar yr anghenion hyfforddi a’r gwasanaeth, a byddant yn cael eu hadolygu’n rheolaidd.

Bydd disgwyl i hyfforddeion ddilyn hyfforddiant ffurfiol ar gyfer graddedigion mewn Meddygaeth Alwedigaethol a chytunir ar drefniadau ar gyfer hyn rhwng yr hyfforddwr a’r sawl a benodir. Mae hyn yn debygol o fod ar ffurf Cyd-ddarlithiaeth Dysgu o Bell Cyfadran Meddygaeth Alwedigaethol (AFOM) Prifysgol Manceinion / cwrs MSc neu gwrs diwrnod astudio AFOM yn Sefydliad Iechyd Galwedigaethol Prifysgol Birmingham. I fod yn aelod o’r Gyfadran Meddygaeth Alwedigaethol bydd angen traethawd a bydd cymorth ar gael i ddewis tesun ymchwil addas.

Dolenni defnyddiol

Y Gyfadran Meddygaeth Alwedigaethol

Cysylltiadau

Ar hyn o bryd nid yw Cymru’n cynnig rhaglen hyfforddi mewn Meddygaeth Alwedigaethol