Neidio i'r prif gynnwy

Microbioleg Feddygol, Firoleg Feddygol a Chlefydau Heintus


Cyflwyniad

Mae gan Yr Ysgol Meddygaeth Iechyd Cyhoeddus gyfrifoldeb am y trefnu a darpariaeth o Ficrobioleg Feddygol, Firoleg Feddygol a Chlefydau Heintus.

Mae hyfforddiant heintiau yng Nghymru yn cynnig profiad amrywiol a diddorol.  Mae'r adrannau microbioleg, firoleg a chlefydau heintus wedi'u hintegreiddio'n dda, yn gyfeillgar ac yn gefnogol, sydd yn cynnig hyfforddiant arbenigol mewn:

  • clefydau heintus a microbioleg feddygol
  • clefydau heintus a firoleg feddygol
  • microbioleg meddygol
  • firoleg feddygol
     

Hyfforddi yng Nghymru

Mae dau gylchdro hyfforddi heintiau yng Nghymru: De-ddwyrain Cymru a De-orllewin Cymru.  Mae'r cylchdroadau hyn wedi'u lleoli o amgylch Caerdydd ac Abertawe , gyda'r rhan fwyaf o'r hyfforddiant yn digwydd yn ganolog gydag atodiadau ychwanegol mewn ysbytai cyfagos.  Mae pob lleoliad ar y safle o fewn pellter cymudo, gan alluogi hyfforddeion i fyw mewn un lleoliad drwy gydol eu rhaglen. Gellir cynnal rhai gweithgareddau ‘ar-alwad’ o bell i ddarparu cyngor arbenigol dros ardal ehangach.

Bydd hyfforddeion yn cael eu penodi i gylchdro penodol ar adeg recriwtio cenedlaethol.

Mae hyfforddiant microbioleg a firoleg cyffredinol yn y ddau gylchdro o fantais oherwydd presenoldeb labordai ar y safle gan gynnwys ystod o wasanaethau arbenigol a chyfeirio. Yn ogystal, rhoddir profiad microbioleg a firoleg glinigol eang trwy ymgynghori ar amrywiaeth eang o arbenigeddau mewn atgyfeirio trydyddol yn ogystal ag ysbytai cyffredinol dosbarth. 

Mae hyfforddiant mewn clefydau heintus (ID) yn digwydd mewn ysbytai addysgu mawr, Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd ac Ysbyty Treforys yn Abertawe, gyda gwelyau ar gyfer cliefion gyda ID a gwasanaethau ymgynghori cynyddol. Yn ogystal, cyflawnir profiad cleifion allanol trwy amrywiaeth eang o glinigau gan gynnwys ID cyffredinol, HIV, twbercwlosis (TB), therapi gwrthficrobaidd parenteral cleifion allanol (OPAT), hepatitis firaol, ac iechyd mudol.

Mae cyfleoedd ychwanegol wedi'u teilwra i ddiddordebau unigol ac anghenion hyfforddi. Anogir hyfforddeion i gymryd rhan mewn treialon clinigol, prosiectau ymchwil ac i ddatblygu meysydd o ddiddordeb arbennig.

 

Clywch gan ein hyffordeion presennol

"Mae llu o batholeg yma, cefnogaeth ardderchog a does dim dau ddiwrnod yr un fath - rwy'n teimlo fy mod yn cael fy herio ac yn awyddus i ddysgu bob dydd. Y tu allan i'r gwaith, mae De Cymru yn hyfryd.. Rwyf wedi teithio o le i le trwy fy ngyrfa feddygol, ond dyma'r tro cyntaf i rywle teimlo fel adre." Lorcan O'Connell (ID/microbioleg feddygol)

"Mae fy llwybr gyrfa yn un gymhleth -  wnes i PhD ac roeddwn i'n wyddonydd clinigol cyn mynd i ysgol feddygol... Rydw i bellach dros hanner ffordd trwy fy hyfforddiant heintio yng Nghaerdydd ac ni allaf weld fy hun yn gwneud unrhyw beth arall - yn bendant dyma'r swydd orau yn yr ysbyty." Gwennan Jones (microbioleg feddygol)

Defnyddiwch y dolenni isod i ddarganfod mwy am yrfa mewn Clefydau Heintus, Microbioleg Feddygol, Firoleg Feddygol.

Gwybodaeth am yrfaoedd a'r cwricwlwm:

Clefydau heintus

Microbioleg Feddygol

Taflu goleuni ar arbenigedd: – clefydau heintus

Hyfforddiant mewn microbioleg

Clefydau Heintus a Meddygaeth Drofannol

Am wybodaeth Recriwtio:  Mae recriwtio wedi trefnu ar lefel gwladol; cliciwch yma am fwy o fanylion.

Manylion Cyswllt y Rhaglen Hyfforddiant Arbenigol: Os ydych yn dymuno siarad â'n Cyfarwyddwr Rhaglen Hyfforddi, gallwch ddod o hyd i'w manylion yma: Manylion Cyswllt Rhaglenni Hyfforddiant Arbenigol

Dolenni defnyddiol*:

http://www.britishinfection.org/

Cymdeithas Heintiau Gofal Iechyd

Cartref (bhiva.org)

* Nid yw Addysg a Gwella Iechyd Cymru yn gyfrifol am gynnwys na dibynadwyedd unrhyw wefannau cysylltiedig. Nid ydym yn derbyn unrhyw atebolrwydd o ran y cynnwys nac am ganlyniadau dilyn unrhyw gyngor sydd wedi'i gynnwys ar safleoedd o'r fath.

Ni ddylid cymryd rhestru fel cymeradwyaeth o unrhyw fath.

Ni allwn warantu y bydd y dolenni hyn yn gweithio drwy'r amser ac nad oes gennym unrhyw reolaeth dros argaeledd y tudalennau cysylltiedig na newid cyfeiriad y wefan.

Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru yn cadw'r hawl i wrthod neu ddileu dolenni i unrhyw wefan.

Rydym wedi cynnwys rhywfaint o wybodaeth ychwanegol isod, a gobeithiwn y bydd yn ddefnyddiol i chi.

Datblygiad Proffesiynol Parhaus: Mae digon o gyfleoedd i barhau â'ch datblygiad proffesiynol yn ychwanegol at eich diwrnodau astudio arbenigol penodol.  Mae'r rhain yn cynnwys ein Cwricwlwm Generig, Hyfforddiant Sgiliau Gwella Ansawdd (QIST) a’n porth arweinyddiaeth Gwella . Gall ein Rhaglen Cymrodoriaeth Hyfforddiant Academaidd Clinigol Cymru (WCAT)  a Chymrodoriaeth Hyfforddiant Arweinyddiaeth Glinigol Cymru (WCLTF) fod o ddiddordeb hefyd.

Llai na Llawn Amser: y nod yw sicrhau bod hyfforddiant LTFT ar gael i gynifer o hyfforddeion cymwys â phosibl.   Ewch i'n tudalen we i ddarganfod mwy - LTFT

Uned Cymorth Broffesiynol: mae ein Huned Cymorth Broffesiynol yn darparu arweiniad a gwybodaeth i feddygon dan hyfforddiant, gan gynnwys cyrsiau hyfforddi a chymorth lles.  Ewch i'w tudalen i gael rhagor o wybodaeth - Y Cymorth ar gael.

Cyflogwr Arweiniol Sengl: rydym wedi mabwysiadu model cyflogaeth Cyflogwr Arweiniol Sengl (SLE). Mae hyn yn golygu yn hytrach na newid cyflogwr bob tro y mae hyfforddeion yn cylchdroi, maen nhw'n aros gyda'r un cyflogwr trwy gydol eu hyfforddiant. Nid yn unig y mae hyn yn golygu llai o waith papur ac yn arbed amser, ond hefyd mae’n golygu un cyflogwr parhaus i ddelio â unrhyw bryderon, ymholiadau neu faterion drwy gydol yr hyfforddiant. Ewch i Cyflogwr Arweiniol - Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru

Cynrychiolwyr dan Hyfforddiant: cynrychiolwyr etholedig yw'r rhain sy'n gweithio gyda ni i wella ein rhaglenni hyfforddiant yn barhaus trwy adborth a gwell cyfathrebu rhwng Hyfforddeion a Phwyllgorau Hyfforddiant Arbennig/Ysgolion Arbenigol. Byddant hefyd yn gallu eich cyfeirio at adnoddau, mentrau a gwasanaethau dan arweiniad hyfforddeion.

Gan elwa o’r ymdeimlad cryf o gymuned, tai fforddiadwy, ysgolion gwych yn ogystal â llawer o ffyrdd i ymlacio a chael hwyl, mae Cymru yn lle hawdd i setlo p'un a ydych yn dod â'ch teulu neu'n dod ar eich pen eich hun.

Mae gan ein gwefan Hyfforddi,Gweithio,Byw rhagor o wybodaeth hwn a fydd yn rhoi cipolwg defnyddiol. Mae Croeso i Gymru yn darparu cyfoeth o wybodaeth, o fyw a gweithio yng Nghymru i wybodaeth am antur a gweithgareddau, natur a thirweddau, iaith a diwylliant.

I gael cyfeirlyfr o'r Byrddau Iechyd a'r ysbytai, ewch i Iechyd yng Nghymru | Cyfeiriadur  

Newydd i'r DU?

Mae'r wefan ganlynol yn cynnwys llawer o wybodaeth ddefnyddiol os ydych yn newydd i'r DU:

Overseas applicants | Medical Education Hub