Fe lansiwyd y Cwricwlwm Generig ym Mis Medi 2021. Mae’n cynnig ystod eang o hyfforddiant a chyrsiau ar gyfer meddygon iau.
Nod y Cwricwlwm Generig yw darparu mynediad i ddatblygiad personol a phroffesiynol i gefnogi a gwella arfer meddygol da ar wahanol gamau o'r Rhaglen Hyfforddi. Mae'r pynciau wedi'u mapio i feysydd y fframwaith galluoedd proffesiynol Generig gan y GMC yn unol â gofynion eich cwricwlwm.
Bydd manylion am gyrsiau yn cael eu hanfon at bob hyfforddai cymwys yn uniongyrchol a byddant ar gael ar ein gwefan. Bydd lleoedd yn cael eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin, a byddwn yn cadw trefn ar restr aros i sicrhau ein bod yn gwneud y mwyaf o'r cyfleoedd sydd ar gael i bawb. Bydd gwybodaeth am fodiwlau ychwanegol yn cael ei rhyddhau cyn gynted ag y bydd y trefniant wedi'i gwblhau a'r dyddiadau wedi'u pennu.
Dros y flwyddyn academaidd nesaf, bydd AaGIC yn parhau i ychwanegu cyrsiau hyfforddi newydd i'r Cwricwlwm Generig.
Os oes gennych ddiddordeb mewn cefnogi datblygiad y modiwlau nesaf a helpu i redeg rhaglen addysgu genedlaethol ar gyfer yr holl hyfforddeion, yna cysylltwch â Dr Martin Edwards, Dirprwy Gyfarwyddwr Gofal Eilaidd (martin.edwards6@wales.nhs.uk).