Mae'n ofynnol i hyfforddeion gael cymeradwyaeth ffurfiol gan y Deon Ôl-raddedig er mwyn cymryd saib o raglen hyfforddiant clinigol.
Os ydych yn ystyried cymryd saib o'ch Rhaglen Hyfforddiant Arbenigol (OOP) rhaid i chi ddarllen y Gold Guide a'r Polisi Allan o Raglen cyn cyflwyno cais.
Mae nifer o gamau y mae'n rhaid eu dilyn:
Cam 1 – trafodwch eich cynlluniau gyda'ch Goruchwyliwr Addysgol a Chyfarwyddwr y Rhaglen Hyfforddi o leiaf chwe mis cyn dyddiad dechrau yr OOP arfaethedig.
Cam 2 – os yw eich Goruchwyliwr Addysgol a Chyfarwyddwr y Rhaglen Hyfforddiant yn cefnogi’ch cais, mae angen i chi hefyd adolygu gofynion eich Coleg o ran y broses ymgeisio a chymeradwyo OOP.
Cam 3 – llenwch a chyflwynwch y ffurflen gais fel y nodir ym mholisi AaGIC. Rhaid ei chyflwyno o leiaf chwe mis cyn dyddiad dechrau yr OOP arfaethedig.
Bydd y Deon Ôl-raddedig ond yn ystyried ceisiadau a gyflwynir ar ffurflen gais Allan o Raglen (OOP).