Neidio i'r prif gynnwy

Adolygiad Blynyddol o Ddatblygiad Cymhwysedd (ARCP)

Meddygon yn aros am adolygiad blynyddol

Yr Adolygiad Blynyddol o Ddilyniant Cymhwysedd (ARCP) yw'r asesiad ffurfiol i bennu galluoedd pob hyfforddeion i symud ymlaen trwy eu rhaglen hyfforddi.

Caiff y cymwyseddau eu diffinio yn y cwricwlwm a luniwyd gan y Colegau a'r Cyfadrannau Brenhinol, a fydd wedi'u cymeradwyo gan y Cyngor Meddygol Cyffredinol (GMC) fel rheoleiddiwr hyfforddiant yn y DU. 

Mae'r Gold Guide yn ganllaw cyfeirio ar gyfer hyfforddiant arbenigol ôl-raddedig yn y DU sy'n sail i lywodraethu'r broses ARCP.

Proses

Bydd Cyfarwyddwyr y Rhaglen Hyfforddi yn cynllunio'r ARCPs drwy gydol y Flwyddyn Academaidd.  Dylai ARCPs ddigwydd yn flynyddol o leiaf neu bob tro y bydd hyfforddai yn cyrraedd diwedd eu gradd hyfforddi. 

Gellir cynnal y broses yn amlach os oes angen delio â materion perfformiad a dilyniant neu, lle bo hynny'n briodol, i hwyluso cyflymu hyfforddiant y tu allan i'r adolygiad blynyddol.

Bydd tîm ARCP yn AaGIC yn hysbysu'r holl hyfforddeion o fewn 8 wythnos i ddyddiad y panel.  Cyfrifoldeb yr hyfforddeion yw cwblhau a chyflwyno'r Ffurflen R a sicrhau bod yr holl dystiolaeth gan gynnwys yr Adroddiad Goruchwyliwr Addysgol yn cael ei uwchlwytho ac ar gael ar yr eportfolio o leiaf 10 diwrnod cyn dyddiad ARCP.

Rhaid i banel ARCP gynnwys o leiaf dri aelod o'r panel a all gynnwys Deon Cyswllt, Cyfarwyddwyr Rhaglen Hyfforddi a Goruchwylwyr Addysgol / hyfforddwyr i asesu'r dystiolaeth ym  mhortffolio’r hyfforddai.  Yn ychwanegol at aelodau'r panel gall staff AaGIC, Cynghorwyr Allanol a Chynrychiolydd Lleyg hefyd fod yn bresennol a'i rôl yw goruchwylio proses ARCP.

Bydd y panel yn argymell canlyniad yn seiliedig ar y dystiolaeth a gyflwynwyd a fydd yn penderfynu a yw'r hyfforddai yn gallu symud ymlaen i'r cam nesaf o hyfforddiant.  Am ddiffiniadau o'r Canlyniadau, gweler y fersiwn ddiweddaraf o'r Gold Guide.

Nid yw hyfforddeion yn mynychu cyfarfod panel ARCP fodd bynnag bydd adborth yn cael ei roi yn unol â'r amserlen arbenigeddau.  Ar gyfer unrhyw hyfforddeion sy'n derbyn Canlyniad 2, 3 neu 4 bydd cyfarfod yn cael ei drefnu i roi adborth gan y TPD neu aelod o'r panel o fewn 10 diwrnod o’r cyfarfod panel ARCP.

Am wybodaeth am y broses adolygu ac apeliadau cliciwch yma.

Gweler isod am ein Cwestiynau Cyffredin.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ychwanegol, cysylltwch â ni neu siaradwch â'ch Goruchwyliwr Addysgol neu Gyfarwyddwr y Rhaglen Hyfforddi.

Cwestiynau Cyffredin