Mae'n bwysig bod AaGIC yn ymwybodol eich bod yn gadael eich rhaglen hyfforddi, p'un a ydych wedi cwblhau’ch hyfforddiant neu'n gadael yn gynnar. Darllenwch yr holl wybodaeth isod.
Mae'n ofynnol i AaGIC hysbysu’r GMC am hyn, ond rydym hefyd yn awyddus i ddeall mwy am eich profiadau yn ystod eich cyfnod gyda ni a sut olwg sydd ar eich cynlluniau i’r dyfodol.
Llongyfarchiadau ar gwblhau eich hyfforddiant; gobeithio’ch bod wedi mwynhau eich profiad yng Nghymru. Er mwyn ein helpu i ddatblygu a llunio’n rhaglenni, mae'n bwysig ein bod yn casglu adborth am eich profiadau. Felly, gofynnwn yn garedig i chi gwblhau'r hysbysiad gadael.
Mae yno leiafswm o 1 (hyfforddiant craidd) neu 3 (arbenigedd uwch) fis o gyfnod rhybudd.
Os rydych yn gobeithio gadael yn gynt na’r cyfnod rhybudd safonol bydd angen i chi siarad â PCGC (NWSSP) ac eich sefydliad lletya gytuno ar eich diwrnod gwaith olaf. Dylai hyn ddigwydd cyn ichi lenwi ffurflen hysbysiad gadael AaGIC.
Os ydych wedi cael cymeradwyad ar gyfer Trosglwyddiad Rhyng-ddeoniaethol (IDT) trwy'r broses genedlaethol, bydd dal angen i chi ymddiswyddo o'ch rhaglen. Byddai AaGIC yn croesawu adborth ar sail ein rhaglenni. Felly, gofynnwn i chi gwblhau ein ffurflen hysbysiad gadael.
Fel y’ch cynghorir yn y Llawlyfr Hyfforddeion, dylech hefyd siarad â'ch TPD ac adran personél meddygol eich Bwrdd Iechyd.