Mae iechyd cyhoeddus yn gyfle i fod yn rhan o’r cyd-destun iechyd, polisi ac ymgysylltu â’r gymuned ehangach.
Mae meddygon yn cymhwyso sgiliau ymchwil, cyfathrebu a chlinigol mewn gwaith sy’n cynnwys hybu iechyd yn rhagweithiol ac ymchwilio a dadansoddi gwrthrychol.
Diolch i’w statws datganoledig, mae iechyd cyhoeddus yng Nghymru’n gweithio o fewn cyd-destun cenedlaethol yn ogystal â rhanbarthol ac mae’n cynnwys cymysgedd gyfoethog o ddisgyblaethau a phroffesiynau sydd â gwir ddylanwad ar yr agenda iechyd.