Cafodd rhaglen gymrodoriaeth Trac Academaidd Clinigol Cymru (WCAT) ei lansio fis Awst 2009. Prif nod y cynllun yw rhoi i hyfforddeion academaidd clinigol yr ystod o wybodaeth a sgiliau sydd ei hangen arnynt i gystadlu fel ymchwilwyr annibynnol ym maes modern ymchwil drosi.
Rhagwelir y bydd cymrodyr y cynllun hwn yn gwneud ceisiadau llwyddiannus am Gymrodoriaethau Gwyddonwyr Academaidd uchel eu parch gan y prif gyllidwyr gan gynnwys y Welcome Trust a’r Cyngor Ymchwil Feddygol.
Mae cymrodoriaethau WCAT yn swyddi hyfforddi cymrodoriaethau clinigol mewn meddygaeth a deintyddiaeth academaidd. Maent yn ffrwyth cydweithredu rhwng Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) a’r prif brifysgolion yng Nghymru (Bangor, Caerdydd ac Abertawe) mewn cydweithrediad ac sy’n cael cyllid wedi’i glustnodi gan Lywodraeth Cymru.
Mae pob un o Gymrodoriaethau WCAT yn cynnwys hyfforddiant o fynediad hyd CCT ac mae’n cynnwys Cymrodoriaeth Hyfforddi PhD tair blynedd lle telir cyflog a chyfnod o hyfforddiant clinigol gydag amser academaidd wedi’i neilltuo (0.2 cyfwerth ag amser cyflawn) yn y blynyddoedd hyfforddiant clinigol.
Mae’r holl recriwtio i raglen gymrodoriaeth WCAT yn cael ei wneud drwy Oriel, ac os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â recriwtio, cysylltwch â ni yn at heiw.recruitment@wales.nhs.uk. Mae ein taflen gyrfaoedd academaidd (PDF, 1.8Mb) hefyd ar gael.
Mae pob un o gymrodyr WCAT yn cymryd tair blynedd allan o’r rhaglen (OOP) ar gyfer PhD wedi’i ariannu, cyn mynd allan o’r rhaglen rhaid i bob cymrodor gwblhau ffurflen gais OOP. Gall cymrodyr WCAT hefyd wneud cais am amser ychwanegol allan o hyfforddiant clinigol ar gyfer cymrodoriaethau, rhaid i’r amser hwnnw gael ei gymeradwyo’n rhagolygol drwy gwblhau ffurflen gais OOP. Gweler tudalennau gwefan OOP am ragor o wybodaeth a chopi o’r ffurflen gais OOP.
Mae gan bob cymrodor WCAT hawl i 30 diwrnod o seibiant astudio a dyrennir cyllideb seibiant astudio o £600 iddynt bob blwyddyn. Gellir gweld polisi seibiant astudio WCAT yma ynghyd â manylion am yr hyn y gellid defnyddio dyddiau seibiant astudio ar eu cyfer a sut i hawlio treuliau seibiant astudio.
Gall cymrodyr WCAT weithredu am hyd at dri mis yn ystod 12 mis olaf hyfforddiant clinigol cyn CCT. Dylai ceisiadau gyrraedd Deoniaeth Cymru o leiaf wyth wythnos cyn dyddiad dechrau arfaethedig y trefniant gweithredu. Gweler gwefan Acting Up am ragor o wybodaeth a ffurflen gais.