Mae gyrfa mewn Meddygaeth a Deintyddiaeth Academaidd yn cynnig cymysgedd o feddygaeth glinigol, ymchwil ac addysgu.
Mae hyn yn caniatáu cynnydd o fewn arbenigedd clinigol o ddiddordeb ynghyd â’r potensial i arwain ymchwil o safon ryngwladol ac i gyfrannu at ac arwain rhaglenni addysgol o fewn Meddygaeth a Deintyddiaeth.
Yn Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) rydym yn cydweithio’n glos â’r uned Gyrfaoedd, yr ysgolion Sylfaen ac Arbenigeddau. Y tu allan i AaGIC rydym yn cydweithio’n agos â byrddau iechyd ac ysgolion meddygol Prifysgolion Bangor, Caerdydd, Abertawe a Glyndŵr. Mae cysylltiadau agos â Swyddfa Cymru ar gyfer Ymchwil a Datblygu yn Llywodraeth Cymru.
Mae Meddygaeth a Deintyddiaeth Academaidd yn cynnig gyrfa sy’n cwmpasu ymarfer clinigol, ymchwil ac addysgu. Mae hyn yn cyfuno hyfforddiant o fewn arbenigedd clinigol ac ymchwil ac addysgu o safon ryngwladol mewn ysgolion meddygol a thu hwnt.
Mae Cymru’n cynnig hyfforddiant cynnar mewn Meddygaeth Academaidd drwy'r Rhaglen Sylfaen Academaidd ac wedyn drwy'r Rhaglen Cymrodoriaeth Hyfforddiant Academaidd Clinigol Cymru (WCAT) gystadleuol.
Mae hon yn cynnig hyfforddiant arbenigol clinigol gydag ymchwil academaidd ynghyd ag amser dynodedig i gwblhau gradd PhD. Mae cysylltiadau sefydledig yn bodoli rhwng Prifysgolion Cymru gydag enw da mewn ymchwil, addysgu a goruchwyliaeth feddygol.
Nod y rhaglen yw creu uwch academyddion clinigol yfory. Yn ogystal â hyn mae swyddi Cymrodoriaethau Academaidd a swyddi Darlithwyr Academaidd i’w cael o fewn arbenigeddau.
Mae AaGIC yn cynnig cynllun mentoriaeth ardderchog. Mae mentoriaeth dda yn amhrisiadwy i’ch helpu drwy gymhlethdodau hyfforddiant clinigol ac academaidd, Mae’n ddigon posibl y bydd angen mwy nag un mentor arnoch – efallai rhywun i gynnig cyngor ar ymchwil ac un arall ar gyfer eich hyfforddiant clinigol. Gall eich mentor fod yn rhywun o’ch adran, ond gall hefyd fod yn rhywun nad ydych yn gweithio â hwy o ddydd i ddydd.
Mae mentoriaeth yn cynnwys popeth o gyngor ar ysgrifennu eich papurau neu ddulliau arbrofol sydd eu hangen, neu fod yn gyfrifol am gyflwyniadau a dangos y ffordd i chi drwy’r byd biofeddygol cenedlaethol a rhyngwladol. Bydd mentor da yn rhoi cyngor dibynadwy ac amhleidiol i chi, yn dangos i chi’r hyn sy’n bosibl, ac yn eich helpu i ddatblygu eich hun a’ch gyrfa i gyflawni eich nodau.
Mae cyfleoedd ymchwil ar gael ym Mhrifysgolion