Meddygaeth Fewnol Gyffredinol (GIM) yn cynnwysdiagnosio a thrin sbectrwm eang o gyflyrau, yn amrywio o'r person ifanc difrifol wael acíwt i gleifion oedrannus sydd â cydafiechydon cymhleth lluosog.
Yn cael ei ystyried fel arbenigedd ar wahân, mae GIM bellach yn ffurfio rhan annatod o grŵp un hyfforddiant arbenigedd meddygol. Bellach mae angen cwblhau cwricwlwm GIM ar gyfer dyfarnu Tystysgrif Cwblhau Hyfforddiant (CCT) ar gyfer pob hyfforddai arbenigol grŵp un; ar hyn o bryd mae dros 200 o hyfforddeion yng Nghymru sydd yn un o'r arbenigeddau hyn. Bydd y sgiliau a geir o hyfforddiant GIM nid yn unig yn ategu arbenigedd eich grŵp un, ond hefyd yn caniatáu ichi gymryd rhan yn y gwaith o reoli cymhlethdod meddygol cynyddol a heriol.
Mae'r Cofrestrydd Meddygol yn aml yn cael ei ystyried yn benderfynwr allweddol yn y lleoliad acíwt a bydd hyfforddiant mewn GIM yn helpu i ddatblygu annibyniaeth a rhinweddau arweinyddiaeth. Bydd y rhan fwyaf o'ch profiad GIM yn cael ei gasglu o reoli cleifion ar eich wardiau eich hun a thrwy gyfnodau ar alwad sydd fel arfer yn cael eu treulio mewn Uned Meddygaeth Acíwt /Uned Asesu Brys Meddygol.
Fodd bynnag, o ystyried bod hyfforddiant arbenigol yng Nghymru yn cwmpasu ardal ddaearyddol eang, mae cyfle da i brofi GIM mewn lleoliadau sydd ag adnoddau gwahanol e.e. mewn Ysbytai Cyffredinol Rhanbarthol (DGHS) heb gefnogaeth drydyddol agos yn erbyn Canolfannau Trydyddol. Bydd llawer o'ch Goruchwylwyr Addysgol (ES) ar gyfer eich arbenigedd grŵp un yn cael eu hachredu gan GIM a byddant yn darparu arweiniad o ddydd i ddydd ar ddilyniant GIM. Os nad yw eich ES wedi'i achredu gan GIM, cefnogir GIM yng Nghymru yn gadarn gan bum Cyfarwyddwr Rhaglen Hyfforddi GIM, sy'n cwmpasu gwahanol ardaloedd daearyddol ac arbenigeddau grŵp un ac a fydd yn gallu darparu cymorth. I ddod o hyd i'w manylion cyswllt, ewch i'r adran 'rhagor o wybodaeth' isod.
“Yn bersonol, rwyf wedi mwynhau fy hyfforddiant meddygol yng Nghymru hyd yn hyn. Mae’r staff clinigol ar y cyfan yn andros o gefnogol a chyfeillgar. Rwyf wedi cymryd nifer o fisoedd o absenoldeb oherwydd salwch ar fyr rybudd, a hefyd wedi cymryd blwyddyn allan o hyfforddiant ar gyfer profiad gwaith. Ar y ddau achlysur roeddwn yn teimlo bod cefnogaeth i mi wneud beth oedd yn gywir i mi. Mae nifer o fy nghydweithwyr a gychwynnodd eu hyfforddiant yng Nghymru wedi dewis aros yma i weithio, sydd yn dweud cyfrolau am yr amgylchedd gwaith yma”.
Emma Shiels, Meddgyaeth Anadlol /GIM.