Mae arbenigwyr Meddygaeth Gofal Dwys (ICM) yn ymwneud â phob agwedd ar ofal y difrifol wael. Maen nhw'n darparu systemau cynnal organau ynghyd ag ymchwilio, dehongli, trin a rheoli gwaeleddau acíwt. Fel dwysegydd, byddwch yn dod i gysylltiad â chleifion o bob arbenigedd ac yn gweithio gyda llu o weithwyr gofal iechyd proffesiynol o ystod eang o adrannau yn yr ysbyty.
Mae ICM yn aml yn darparu gwasanaethau allgymorth, addysg a hyfforddiant i adrannau eraill mewn ysbytai o ran ymdrin â chleifion difrifol wael. Mae dwysegwyr hefyd yn aml yn rhoi sylw i gleifion y mae eu cyflyrau’n dirywio, gan eu hasesu, eu monitro a’u hadolygu yn yr adran frys ac ardaloedd cleifion mewnol eraill.
Mae AaGIC yn cynnig rhaglen hyfforddi unigryw ac arbenigol i'w hyfforddeion ICM, yn ogystal â chyfleoedd i gyflawni'r holl ddeilliannau dysgu disgwyliedig i gael Tystysgrif Cwblhad Hyfforddiant (CCT) mewn meddygaeth gofal dwys. Gall derbyniad i'r rhaglen hyfforddi fod drwy’r Llwybr Craidd Gofal Acíwt (ACCS) neu yn sgil unrhyw un o'r rhaglenni hyfforddi cymwys ym maes anesthesia, Hyfforddiant Meddygaeth Fewnol (IMT) neu feddygaeth frys.
Fe'i rhennir yn fras yn dri cham:
Mae’n bosibl i hyfforddeion gael eu lleoli yn ysbytai Abertawe, Y Faenor, Ysbyty Glangwili, Tywysoges Cymru, Brenhinol Morgannwg, Y Tywysog Siarl, Ysbyty Gwynedd, Glan Clwyd neu Maelor Wrecsam er mwyn bodloni’ch gofynion am o leiaf deuddeng mis o hyfforddiant ym mhob un o'r arbenigeddau canlynol: meddygaeth, ICM ac anesthesia.
Mae'r ddwy flynedd hon yn canolbwyntio ar hyfforddiant Sgiliau Arbennig a draddodir fel arfer yn Abertawe neu yng Nghaerdydd er mwyn hwyluso profiad cardiothorasig, pediatrig a niwrolawfeddygol. Mae arweinwyr y rhaglen hefyd yn gweithio gydag Addysg Iechyd Lloegr – Gogledd Orllewin i ddarparu hyfforddiant Cam 2 yn ardaloedd daearyddol Lerpwl a Manceinion ar gyfer hyfforddeion sydd wedi'u lleoli yng ngogledd Cymru. Mae Cam 2 hefyd yn cynnwys blwyddyn Sgil Arbennig, a fydd yn amrywio yn dibynnu os yn dilyn llwybr CCT sengl neu ddeuol. Os mai llwybr CCT sengl y Gyfadran Meddygaeth Gofal Dwys (FICM) sy’n cael ei ddilyn, gellir dewis nifer o feysydd arbenigol i ddatblygu sgiliau newydd yn ystod y flwyddyn honno e.e. gall meysydd clinigol gynnwys ecocardiograffeg o fewn ICM, meddygaeth drosglwyddo neu awyru’r cartref, neu hyfforddiant anghlinigol mewn methodoleg Gwella Ansawdd (QI) neu'r byd academaidd ac ymchwil. Bydd hyfforddeion llwybr CCT deuol yn ymgymryd â sgiliau arbennig o fewn eu llwybr CCT partner h.y. Anesthesia, Argyfwng, Acíwt Mewnol, Arennol neu Feddygaeth Resbiradol.
Mae Cam 3 yn cynrychioli'r flwyddyn olaf o hyfforddiant, lle mae sgiliau ICM yn cael eu cyfnerthu cyn dyfarniad CCT. Gellir ei rannu rhwng un o ysbytai mawr de Cymru, a phrofiad mewn uned lai, neu’n gyfan gwbl mewn uned drydyddol yn dibynnu ar ddiddordebau gyrfaol i’r dyfodol.
Mae rhwydwaith trawma mawr De Cymru bellach wedi'i sefydlu a chyda hynny daw cyfleoedd i reoli trawma cymhleth, anafiadau trawmatig i'r ymennydd, hwyluso trosglwyddiadau a chydlynu ailgartrefu neu ailwladoli. Ymhellach i'r gorllewin, mae Abertawe yn gartref i Ganolfan Llosgiadau a Llawfeddygaeth Blastig Cymru. Mae'r ganolfan losgiadau drydyddol hon yn chwarae rhan ganolog yn rhwydwaith llosgiadau'r DU ac yn darparu profiad gwerthfawr i hyfforddeion mewn gofal critigol llosgiadau.
Yng ngogledd Cymru, mae'r ysbytai yn delio â nifer helaeth o drawma hefyd, gyda gofal cydweithredol rhwng ysbytai cyffredinol y rhanbarth, sy'n porthi Rhwydwaith Trawma Gogledd-orllewin Canolbarth Lloegr a Gogledd Cymru, gyda'r Ganolfan Trawma Mawr (MTC) wedi'i lleoli yn Stoke. Mae Gogledd Cymru’n cynnig ei heriau ei hun gyda'i thirweddau gwledig, heolydd cyflym ac arfordiroedd geirwon. Mae hyn yn arwain at gyfleoedd gwerthfawr i brofi gofal aml-asiantaeth i gleifion; ac i'r rhai sy’n brofiadol ar fynyddoedd efallai y bydd yn gefnlen i waith gwirfoddol gyda thimau achub mynydd lleol.
Mae AaGIC a Phwyllgor Hyfforddiant Arbenigol ICM (STC) wedi ymrwymo i'ch datblygiad a'ch addysg a bydd yn rhoi cynllun i chi sy'n eich galluogi i ennyn profiad a magu hyder cynyddol o’r naill flwyddyn i’r llall. Bydd yr amrywiaeth o gyfleoedd a lleoliadau hyfforddi yng Nghymru yn eich gwneud yn weithiwr proffesiynol cyflawn a chrwn sy'n barod i ymgymryd â rôl ymgynghorol mewn unrhyw ysbyty, boed fawr neu fach.