Neidio i'r prif gynnwy

Anesthetig craidd ac uwch

Mae Anesthesia yn un o’r arbenigeddau mwyaf mewn ysbytai, ac fel arbenigedd ymarferol a gweithredol—mae'n ddewis gyrfa poblogaidd iawn. Mae anesthetyddion yn ymwneud â meysydd amrywiol gan gynnwys poen cronig, obstetreg, meddygaeth gofal critigol, cardioleg bediatrig, radioleg ymledol ac, wrth gwrs, disgyblaeth graidd meddygaeth lawdriniaethol. Mae’r sgiliau ymarferol beunyddiol a gaiff eu meithrin yn cynnwys mewndiwbio traceol a gosod gwifrau rhydwelïol, gwifrau canolog, ynghyd â thechnegau anesthetig lleol gan gynnwys prosesau epidwral, atalyddion yr asgwrn cefn ac atalyddion nerfau eraill fel rhan o waith arferol ymarferydd anesthetig. Gellir crisialu'r swydd o ddydd i ddydd fel ffisioleg a ffarmacoleg ar waith; mae’n hanfodol i anesthetyddion gynnal dealltwriaeth fanwl o ffisioleg a ffarmacoleg gymhwysol, er mwyn ymdopi â’r her o ofalu am y cleifion gwaelaf yn yr ysbyty.

HYFFORDDIANT YNG NGHYMRU

Darperir hyfforddiant craidd mewn Anesthesia ac Anesthesia-ACCS mewn adrannau ledled Cymru, ac fe'i trefnir yn ôl pedair canolfan hyfforddi ar gyfer y rhaglen ar ei hyd; gogledd, de ddwyrain, de’r canolbarth a de orllewin Cymru. Mae’r hyfforddiant craidd yn canolbwyntio ar y wybodaeth a'r sgiliau sy'n ofynnol i weithredu anesthesia’n annibynnol gyda chleifion ffit ac iach. O fewn y rhaglen Anesthesia tair blynedd neu Anesthesia-ACCS pedair blynedd, treulir chwe mis ym maes gofal dwys. Cwblheir arholiad Cymrodoriaeth Sylfaenol y Coleg Brenhinol Anesthesia (FRCA) yn ystod hyfforddiant Cam Un a chyn gwneud cais am hyfforddiant ST4. Cefnogir hyfforddeion craidd trwy raglen addysgu Gwyddor Sylfaenol Anesthesia Cymru Gyfan i sicrhau'r llwyddiant eithaf mewn arholiadau.

Yn ystod hyfforddiant uwch mae pwyslais ar hyfforddiant is-arbenigedd eang, gyda chyfleoedd helaeth i ganlyn meysydd o ddiddordeb arbennig (SIA) yn ystod ST6 a ST7. Mae’r cyfleoedd hyn yn addas i'r rheini sydd â diddordebau gyrfaol penodol fel poen, pediatreg, obstetreg neu anesthesia cardiaidd. Traddodir y rhaglen hyfforddi pedair blynedd ST4-7 ar draws safleoedd ysbyty trydyddol ac ysbytai cyffredinol dosbarth, ac mae'n galluogi'r hyfforddeion arbenigol uwch i weithredu’n hyderus ac yn annibynnol ar dderbyn eu Tystysgrif Cwblhad Hyfforddiant (CCT). Mae'r rhaglen ar gyfer yr ST4-6 blynedd yn cael ei phennu ar adeg y penodiad, gyda pheth hyblygrwydd i ddewis y flwyddyn SIA derfynol wedi hynny. Rhestrir yr SIA yn eu llawnder ar wefan y Coleg Brenhinol Anestheteg (RCoA). Darperir amrywiaeth eang o gyfleoedd hyfforddi anesthetig ym mhob ysbyty yng Nghymru, yn ogystal â hyfforddiant niwro-anesthesia yn Ysbyty Walton, Lerpwl.

Mae gan Ysgol Anesthesia Cymru hanes profedig o ddarparu cyfleoedd rhagorol ar gyfer hyfforddiant anghlinigol mewn ymchwil, efelychu ac addysg gwella ansawdd (QI), gan gefnogi hyfforddeion gyda chyhoeddiadau a chyflwyniadau cenedlaethol a rhyngwladol. Anogir hyfforddeion i ennill profiad dramor neu mewn canolfannau arbenigol eraill yn y DU fel profiad Saib o'r Rhaglen (OOP) os dymunant. Mae'r ysgol yn gwbl bleidiol i hyfforddeion sy'n dymuno hyfforddi ar raddfa Llai na Llawn Amser, gyda thros draean o hyfforddeion arbenigol yn dewis gweithio'n fwy hyblyg.

Ar draws hyfforddiant craidd ac arbenigol, mae'r Ysgol yn cyflwyno cyfoeth o adnoddau addysgu ar ffurf rhithwir ac wyneb yn wyneb i ategu'r cwricwlwm RCoA mewn meysydd hyfforddi clinigol ac anghlinigol i gefnogi datblygiad proffesiynol a phortffolio.

Am ddarganfod rhagor?

Os ydych chi'n fyfyriwr meddygol neu'n hyfforddai sylfaen sy’n awyddus i wybod rhagor, ceisiwch drefnu i fynychu rhai diwrnodau blasu israddedig neu ôl-raddedig trwy Raglen Gysgodi Anesthesia Cymru (WASP) i ymgyfarwyddo â’r arbenigedd. Mae'r diwrnodau blasu hyn yn cyflwyno anesthesia i chi ac yn caniatáu profiad ymarferol gyda ‘Diwrnod ym mywyd Anesthetydd’. Nod y rhain yw dangos i fyfyrwyr y lliaws o rolau sydd gan anesthetyddion mewn  ysbytai, sy’n orchwyl anodd oni bai bod myfyriwr wedi cwblhau Cydran Ddewisol y Myfyriwr (SSC) fel rhan o'u gradd feddygol. Mae gennym ffordd ganolog o archebu diwrnodau blasu trwy ein cydlynydd WASP: walesanaesthesiashadowing@gmail.com, a fydd yn cyd-drefnu rhaglen 3-5 diwrnod o ‘Ddiwrnodau Blasu Anesthetig’. Mae'r diwrnodau blasu anesthetig hefyd yn fodd effeithiol o ennill pwyntiau mewn cyfweliadau ar gyfer swyddi anesthetig yn ogystal â chael addysg a chyngor ymgynghorol ‘un i un’ parthed y broses ymgeisio. Bydd mynychwyr y diwrnodau blasu’n cylchdroi rhwng theatr frys a dyletswyddau ar alwad, llawfeddygaeth arhosiad byr ddewisol, gofal dwys, anesthesia arbenigol mewn pediatreg, obstetreg, niwrolawdriniaeth a llawfeddygaeth gardiaidd. Mae'r adborth wedi bod 100% yn gadarnhaol.
Cadwch lygad hefyd am ein nosweithiau gyrfaoedd a gynhelir fel arfer ym mis Hydref/Tachwedd, a fydd yn cael eu hysbysebu trwy wefan Ysgol Anesthesia Cymru.

CLYWCH GAN EIN HYFFORDDEION PRESENNOL:

“Mae anesthesia’n cyplysu’r holl resymau a’m cymhellodd i fod yn feddyg: dealltwriaeth uwch o wyddoniaeth sylfaenol; cyfathrebu â chleifion a'u hanwyliaid; gweithredu sgiliau clinigol cymhleth; lleddfu poen; addysgu eraill, ac ehangu fy ngwybodaeth a’m dealltwriaeth fy hun yn barhaus.” Dr Rick Ellis

“Mae anestheteg yn arbenigedd amrywiog iawn. Does wybod beth fydd anghenion y dydd - lleddfu poen ar y ward esgor, dadebru claf gwael mewn Uned Gofal Dwys neu gyfranogi gyda rhestr theatr ddewisol neu glinig poen cronig. Mae rhywbeth at ddant pawb. Er enghraifft, fe allech chi fod yn lleddfu poen mam wrth iddi eni ei phlentyn ar y ward esgor ac yna’n tawelyddu chwaraewr pêl-droed heini ac iach gyda gewynnau pen-glin anafus.” Dr Lucy Emmett