Neidio i'r prif gynnwy

Anestheteg

Mae Ysgol Anesthesia Cymru yn ysgwyddo cyfrifoldeb dros drefnu a darparu hyfforddiant craidd ac hyfforddiant uwch ym meysydd anesthesia a meddygaeth gofal dwys (ICM) yng Nghymru. Mae'r rhaglenni hyfforddi wedi'u halinio â gofynion y Cyngor Meddygol Cyffredinol (GMC) a chânt eu cymeradwyo gan gwricwla hyfforddi Coleg Brenhinol yr Anesthetyddion (RCoA) a’r Gyfadran Meddygaeth Gofal Dwys; y mae eu safonau yn cael eu pennu gan Gynhadledd y Deoniaid Meddygol Ôl-raddedig ac yn cael eu tanategu gan y Canllaw Aur ar gyfer Hyfforddiant.  

Caiff darpariaeth yr hyfforddiant ei goruchwylio gan Ysgol Anesthesia Cymru, y Gyfadran ICM a’r Gyfadran Meddygaeth Poen. Arweinir yr ysgol gan Bennaeth Ysgol, gyda chefnogaeth Dirprwy Bennaeth Ysgol, Cyfarwyddwyr Rhaglenni Hyfforddi a Chynghorwyr Rhanbarthol ym meysydd Anesthesia, ICM a Meddygaeth Poen. Mae’r cynghorwyr hyn yn ymorol am ddarpariaeth hyfforddiant lleol ac yn adrodd wrth Goleg Brenhinol yr Anesthetyddion, y Gyfadran ICM a'r Gyfadran Meddygaeth Poen.

Traddodir hyfforddiant anesthesia Craidd ar wahân i’r hyfforddiant Arbenigol Uwch a chaiff yr addysgiaeth yn ei chyfanrwydd ei rhannu'n dri cham; cam un (Craidd), ac yna cam dau a thri (HST). Mae hyfforddiant ICM hefyd yn dilyn tri cham, gyda chyfleoedd hyfforddiant Tystysgrif Cwblhad Hyfforddiant deuol (CCT) ym meysydd Meddygaeth, Meddygaeth Frys ac Anesthesia yn cael eu cynnig yn helaeth ac yn cael eu hategu gan yr Ysgol. Mae meddygaeth poen a meddygaeth frys cyn ysbyty (PHEM) hefyd yn feysydd hyfforddiant is-arbenigol cydnabyddedig a phoblogaidd.

Mae’r recriwtio i faes anesthesia ar lefel CT1 ac, o fis Chwefror 2023, ar lefel ST4.  Goruchwylir recriwtio chwemisol gan y swyddfa recriwtio anestheteg genedlaethol. Goruchwylir recriwtio ICM blynyddol gan y swyddfa recriwtio genedlaethol ICM.

Gellir ymroi i faes anesthesia trwy'r rhaglen anesthesia craidd (tair blynedd) neu drwy'r rhaglen Llwybr Craidd Gofal Acíwt (pedair blynedd). Mae cwblhau'r hyfforddiant craidd yn llwyddiannus yn arwain at ddyfarniad tystysgrif cam un. Mae cwblhau’r rhaglen hyfforddiant anesthesia uwch pedair blynedd (ST4 - ST7) yn arwain at ddyfarniad Tystysgrif Cwblhad Hyfforddiant (CCT) a’r hawl i ymuno â’r gofrestr arbenigol.

Gellir cwblhau hyfforddiant ICM drwy gyfrwng llwybr hyfforddi CCT sengl neu ddeuol—gyda modd o ymuno ar lefel ST3 yn dilyn cwblhau un o'r pedair rhaglen graidd ddynodedig; ACCS, Anesthesia Craidd, Hyfforddiant Meddygaeth Fewnol neu lwybr mynediad diffiniedig i feddygaeth frys (DRE-EM). Bydd angen i chi fod wedi cwblhau un o'r arholiadau canlynol; arholiad Cymrodoriaeth Sylfaenol y Coleg Brenhinol Anesthesia (FRCA), MRCP UK (Llawn) neu arholiad Sylfaenol cymwys y Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys (MRCEM). Bydd gwaith cynllunio rhaglen hyfforddi pwrpasol yn mynd rhagddo dan law Cyfarwyddwr Rhaglen Hyfforddi FICM i sicrhau bod holl elfennau hyfforddiant cam 1 yn cael eu bodloni yn eich safle hyfforddi ICM.

Mae rhagor o wybodaeth a'r newyddion diweddaraf am ICM, Anesthesia a Meddygaeth Poen ar gael ar wefannau Ysgol Anesthesia Cymru, ICM a Meddygaeth Poen neu dilynwch ni ar Twitter @welshanaesthes.

Meddygaeth gofal dwys

Mae meddygaeth gofal dwys (ICM) yn arbenigedd dynamig a chyffrous, sy’n denu meddygon sy’n frwdfrydig dros ddarparu gofal i’r cleifion gwaelaf yn yr ysbyty.

Anesthetig craidd ac uwch

Mae Ysgol Anaesthesia Cymru yn gyfrifol am drefnu a darparu hyfforddiant arbenigol craidd ac uwch mewn anaesthesia a meddygaeth gofal dwys (ICM) yng Nghymru.