Mae AaGIG yn cynnig hyfforddiant mewn Oncoleg Glinigol (Radiotherapi) ac Oncoleg Feddygol.
Oncoleg Glinigol (Radiotherapi)
Mae 14 o swyddi hyfforddeion oncoleg glinigol (cyfwerth ag amser cyflawn) yn ne Cymru, wedi’u rhannu rhwng dwy ganolfan hyfforddi; Canolfan Canser Felindre yng Nghaerdydd a Chanolfan Oncoleg Singleton yn Abertawe.
Oncoleg Feddygol
Mae oncolegwyr meddygol yn gyfrifol am oruchwylio triniaeth cleifion â chanser. Mae hyn yn cynnwys trafod opsiynau therapiwtig, goruchwylio triniaethau systemig a chefnogi cleifion drwy eu gofal.