Gweithredu cwricwlwm newydd hyfforddiant cam un meddygaeth fewnol
Blociau tri mis o ICU – Mae blociau tri mis penodedig o ICU wedi’u gwarantu yng Nghymru. Mae’r profforma ar gyfer y tri mis ar gael isod. Bydd gan bob hyfforddai dri mis yn ystod IMT Blwyddyn Dau.
Cafodd cam un cwricwlwm Meddygaeth Fewnol (IM) ei gymeradwyo gan y GMC ar 8 Rhagfyr 2017 gan ddisodli hyfforddiant meddygol craidd (CMT) ym mis Awst 2019. Mae’r cwricwlwm, cwestiynau cyffredin hyfforddeion a chanllaw gweithredu ar gael ar wefan y JRCPTB. Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) ar hyn o bryd yn gweithio’n glos â’r holl Fyrddau Iechyd yng Nghymru i sicrhau ein bod yn cynnig rhaglen hyfforddi gynhwysfawr. Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â hyn neu CMT, cysylltwch â Rheolwr yr Ysgol, Claire Porter.