Mae’r hyfforddiant Llwybr Craidd Gofal Acíwt (ACCS) yn rhaglen hyfforddiant eang sy'n rhoi'r sgiliau a'r galluoedd sydd eu hangen ar feddygon dan hyfforddiant i adnabod cleifion sy’n ddifrifol wael ac ymgymryd â rheolaeth gychwynnol o’u cyflyrau.
Dyma'r unig lwybr hyfforddiant craidd i gyrchu Hyfforddiant Arbenigol Uwch mewn Meddygaeth Frys ac mae'n un o'r llwybrau hyfforddi craidd i gyrchu Hyfforddiant Arbenigol Uwch mewn Anestheteg. Mae hefyd yn llwybr hyfforddi craidd i gyrchu unrhyw un o'r arbenigeddau meddygol a restrir ar wefan JRCPTB.
Treulir y ddwy flynedd gyntaf yn cylchdroi trwy leoliadau chwemisol mewn Meddygaeth Frys (EM), Meddygaeth Fewnol (IM), Anestheteg, a Meddygaeth Gofal Dwys (ICM).
Treulir y drydedd a'r bedwaredd flwyddyn yn ymroi i brif arbenigedd ddewisedig y meddyg dan hyfforddiant, gan ymgymryd â hyfforddiant i fodloni'r gofynion i gyrchu Hyfforddiant Arbenigol Uwch.
Ar hyn o bryd mae saith safle hyfforddi ACCS yng Nghymru; mae dau o'r rhain yn lletya hyfforddeion ACCS o bob un o'r tri prif arbenigedd ACCS (Anesthesia, Meddygaeth Fewnol Acíwt, a Meddygaeth Frys); Ysbyty Athrofaol Y Faenor (GUH), Cwmbrân ac Ysbyty Maelor Wrecsam. Mae dau o'r safleoedd hyfforddi’n lletya hyfforddeion ACCS Meddygaeth Frys yn unig, sef Ysbyty'r Tywysog Siarl, Merthyr Tudful, ac Ysbyty Tywysoges Cymru, Pen-y-bont ar Ogwr. Mae’r tri safle arall yn lletya hyfforddeion ym maes Anesthesia a Meddygaeth Frys, sef Ysbyty Gwynedd, Bangor; Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd; ac Ysbyty Treforys, Abertawe.
Mae rhaglen addysgu ranbarthol yn bodoli ar gyfer hyfforddiant ACCS sy'n cwmpasu pob agwedd gyffredin ar y cwricwlwm ACCS, yn ogystal â gwybodaeth a sgiliau anodd eu caffael. Ymgymerir â’r rhaglen hon drwy gydol y flwyddyn gan ddechrau gyda chyfarfod cynefino sy'n dwyn ynghyd yr holl hyfforddeion ACCS newydd, yn ogystal â'r hyfforddwyr allweddol. Mae'r rhaglen addysgu ei hun yn gyfuniad o ddiwrnodau astudio rhithwir ac wyneb yn wyneb yn ymhel â darlithoedd, gweithdai, sgiliau ymarferol, cyfathrebu yn ogystal â chyfleoedd i feithrin amrywiol sgiliau cwricwlwm gofynnol.
Mae cydweithrediad unigryw yn bodoli rhwng Ysgol Feddygol Prifysgol Caerdydd a’r rhaglen BSc (iBSc.) ryngosodol mewn Gofal Brys Cyn Ysbyty ac Uniongyrchol (EPIC) sy’n caniatáu i fyfyrwyr meddygol fynychu'r rhaglenni addysgu rhanbarthol gyda chyfleoedd i rannu adnoddau hyfforddi, megis offer ac amryw o adnoddau e-ddysgu ar-lein rhagorol.
Mae gan bob safle sy’n lletya hyfforddeion arweinydd, yn ogystal â’r prif arbenigeddau ACCS, er mwyn sicrhau bod hyfforddeion a hyfforddwyr ym mhob safle ac arbenigedd yn cael cynhaliaeth i draddodi hyfforddiant ACCS mor drylwyr a chadarn â phosibl. Cefnogir yr unigolion hyn ymhellach gan gasgliad o gynrychiolwyr hyfforddeion ACCS a all gefnogi a mentora'r hyfforddeion ymhellach gyda'u hyfforddiant. Gwahoddir yr unigolion hyn oll i fynychu'r Pwyllgor Hyfforddiant Arbenigol ddwywaith y flwyddyn lle mae hyfforddiant ACCS yng Nghymru yn cael ei drafod a'i ddatblygu.
Yn olaf, mae nifer o gyfleoedd hyfforddi i’r dyfodol yn bodoli—sy’n deillio o sylfaen hyfforddiant ACCS. Maent yn rhoi’r cyfle i ymgymryd â hyfforddiant deuol neu is-arbenigedd mewn Meddygaeth Gofal Dwys, Meddygaeth Frys Cyn Ysbyty, a Meddygaeth Frys Pediatrig, gyda’r holl brif arbenigeddau ACCS yn cael eu cynrychioli ym mhob un o'r rhaglenni hyfforddiant deuol neu is-arbenigedd hyn.
“Bu i’r blynyddoedd hyfforddiant ACCS fy ngalluogi i ennill profiad drwy ystod y maes gofal acíwt gan gynnwys gwella fy nealltwriaeth o'r rhyngweithiadau a'r heriau y mae pob un o’r pedwar arbenigedd ACCS yn eu hwynebu. Mae wir yn sbardun gwych i yrfa mewn anesthesia, ICM, meddygaeth acíwt neu EM ac mae'n helpu hyfforddeion i dyfu o ran eu hyder a’u gallu i ymdrin â chleifion difrifol wael. Mae hyn yn caniatáu iddyn nhw deimlo'n fwy cyfforddus yn y sefyllfaoedd mwyaf dychrynllyd rydyn ni’n eu hwynebu fel clinigwyr, beth bynnag fo’u dewisiadau gyrfa yn y pen draw.”