Neidio i'r prif gynnwy

Meddygaeth frys cyn mynd i'r ysbyty

Mae ymarfer is-arbenigol Meddygaeth Frys Cyn Ysbyty (PHEM) yn ymwneud â'r Ymateb Brys, Trosglwyddo o’r Lleoliad Gwreiddiol a Throsglwyddo Brys Eilaidd ar lefel yr ymarferydd ymgynghorol. Mae PHEM yn ymwneud yn bennaf â'r maes gofal meddygol hwnnw sy'n angenrheidiol ar gyfer cleifion sy'n ddifrifol wael neu wedi'u hanafu’n ddrwg cyn iddynt gyrraedd yr ysbyty (yn y fan a’r lle) neu wrth eu trosglwyddo ar frys i'r ysbyty (wrth eu cludo). Mae'n cynrychioli maes ymarfer meddygol unigryw sy'n gofyn am gymhwyso ystod ddiffiniedig o wybodaeth a sgiliau ar lefel na ellir ei chyrchu yn arferol oddi allan i'r ysbyty. Mae ymarfer PHEM yn ymwneud yn bennaf â lefel o waeledd neu anaf nad yw'n hydrin i’w rheoli mewn lleoliadau cymunedol ac mae'n canolbwyntio ar ofal critigol mewn amgylcheddau oddi allan i'r ysbyty.  

HYFFORDDIANT YNG NGHYMRU

Mae AaGIC yn cynnal lleoedd hyfforddi ar gyfer un hyfforddai Cynllun C (llawn amser dros 12 mis) a dau hyfforddai Cynllun A (ynghyd â phrif arbenigedd Meddygaeth Frys dros 24 mis). O'r herwydd, mae recriwtio’n eiledu rhwng un a thri hyfforddai newydd yn dechrau rhaglenni bob dwy flynedd ym mis Awst. Mae swyddi Hyfforddiant Meddygaeth Frys yn cael eu cynnal gan Ysgol Meddygaeth Frys Cymru Gyfan yn Ysbyty Athrofaol Y Faenor, Cwmbrân.

Cyflogir Hyfforddeion PHEM yng Nghymru drwy Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (NWSSP) ac maent yn gweithio o fewn system unigryw Cymru, yn bennaf o fewn Y Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS).

Mae'r gwasanaeth hwn a gomisiynwyd gan y GIG yn gweithredu mewn partneriaeth ag Elusen Ambiwlans Awyr Cymru. Ei nod yw darparu penderfyniadau datblygedig a gofal critigol ar gyfer achosion brys sy'n peryglu bywyd neu aelodau’r corff, ble mae angen cludiant ar gyfer triniaeth argyfyngus mewn cyfleuster priodol. 

Bydd hyfforddeion yn gweithio ar draws holl ganolfannau EMRTS Cymru (y gogledd a’r de) gan ennill profiad o ymarfer gofal critigol cyn-ysbyty ‘system gyfan’. Mae hyfforddeion hefyd yn elwa yn sgil partneriaethau agos gyda Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, y Gwasanaeth Trosglwyddo Gofal Critigol i Oedolion (ACCTS Cymru), Rhaglenni Meddygaeth Frys Cymunedol rhanbarthol ac asiantaethau ymateb brys eraill, i gael blas ar ehangder llawn ymarfer PHEM.

Yn ystod rhaglen hyfforddi llawn amser 12 mis, gall hyfforddeion ddisgwyl ymgymryd â mis o Gam 1a sy'n cynnwys mynychu'r cwrs cynefino cenedlaethol yn ogystal â hyfforddiant cynefino lleol cyn cwblhau pum mis o hyfforddiant Cam 1b gyda lefel uchel o oruchwyliaeth ymgynghorol. Ar ôl cwblhau asesiad “cymeradwyo” adolygol lleol Cam 1 yn llwyddiannus, gall hyfforddeion yna ddarparu gofal critigol cyn-ysbyty llawn gyda goruchwyliaeth o bell gan feddygon ymgynghorol. Bydd modd iddynt arwain timau dyletswydd EMRTS yn ystod y dydd a chyda’r nos, gan ddarparu gofal critigol cyn-ysbyty llawn gyda goruchwyliaeth o bell trwy gydol Cam 2.

Mae hyfforddiant PHEM yng Nghymru yn cynnig cyfle unigryw i brofi cyfuniad o ymarfer PHEM gwledig a threfol o fewn system genedlaethol y GIG sy'n darparu gofal o'r radd flaenaf i bobl Cymru.

CLYWCH GAN EIN HYFFORDDEION PRESENNOL:

Hyfforddiant is-arbenigedd PHEM gan Lucy Blackbourn drwy gyfrwng Fideo Prezi