Neidio i'r prif gynnwy

Meddygaeth frys bediatrig

Mae'r hyfforddiant is-arbenigedd Meddygaeth Frys Bediatrig (PEM) yn cynnwys blwyddyn ychwanegol ar ôl cwblhau’r flwyddyn hyfforddiant ST4. Mae'n cynnwys chwe mis mewn Adran Achosion Brys (ED) pediatrig, tri mis ar ward bediatrig gyffredinol a thri mis mewn uned gofal critigol pediatrig. Mae'r broses dderbyn yn un gystadleuol. Er nad oes angen profiad pediatrig blaenorol ar gyfer y swydd, mae dangos diddordeb ac ymrwymiad i PEM yn fanteisiol.

Gall pediatregwyr hefyd gaffael achrediad deuol (mewn Pediatreg a Meddygaeth Frys Bediatrig) trwy gwblhau rhaglen hyfforddi dwy flynedd—sydd hefyd yn cynnwys arbenigeddau llawfeddygol ac anestheteg. Mae penodiadau ar gyfer y swyddi hyfforddiant Grid hyn hefyd ar gael yn Ysbyty Athrofaol Cymru (UHW), Caerdydd. Mae cydleoli hyfforddeion pediatrig a meddygaeth frys (EM) yn caniatáu rhannu sgiliau a gwybodaeth ar draws y ddau gefndir.

HYFFORDDIANT YNG NGHYMRU

UHW, Caerdydd yw’r ganolfan sydd wedi'i hachredu ar gyfer hyfforddiant is-arbenigedd PEM yng Nghymru. Mae UHW yn ymdrin â thros 34,000 o blant y flwyddyn ac ar hyn o bryd mae yno wyth Ymgynghorydd PEM a phedwar Ymgynghorydd EM/PEM achrededig deuol i ategu addysg a goruchwyliaeth. Mae'r Adran Achosion Brys Pediatrig yn weithredol bedair awr ar hugain y dydd, saith diwrnod yr wythnos ac mae wedi'i lleoli gerllaw'r Adran Achosion Brys oedolion gyda gweithlu nyrsio pediatrig cadarn, gan gynnwys Ymarferydd Nyrsio Achosion Brys (ENP) ac arbenigwr chwarae. Yn Ysbyty Plant Cymru ar y safle mae llawer o gyfleoedd dysgu, gan gynnwys uned asesu acíwt ar gyfer cleifion disgwyliedig ymarfer cyffredinol (GP), gwasanaeth pediatrig cyffredinol mawr, amrywiaeth eang o wasanaethau pediatrig arbenigol trydyddol ac Uned Gofal Critigol Pediatrig.

Mae'r lleoliad pediatreg cyffredinol yn cynnwys asesiadau ac ymdriniaeth acíwt o gleifion yn yr uned asesu ac ar y wardiau. Mae'r gwasanaeth gofal critigol pediatrig yn Ysbyty Athrofaol Cymru yn wasanaeth rhanbarthol ar gyfer de Cymru. Mae'n uned gofal critigol pediatrig pymtheg gwely (uned gofal dwys pediatrig (PICU) ac unedau dibyniaeth uchel (HDU) yn gyfunedig) gyda chyfradd brosesu o dros 700 o gleifion y flwyddyn. Bydd hyfforddeion yn cadw mewn cysylltiad â'u goruchwylydd EM drwy gydol eu hamser oddi allan i'r ED.

Mae rhaglen addysgu wythnosol ym mhob adran sy'n cynnwys addysgu efelychu ac ymarferol sy'n seiliedig ar sgiliau, gyda chyfleoedd rheoli trwy gyfrwng sesiynau  adborth cyfun ansawdd a diogelwch, PICU/ED misol a chyfarfodydd diogelu amlddisgyblaethol wythnosol. Mae disgwyl i hyfforddeion ymwneud ag archwilio, canllawiau clinigol a datblygu gwasanaethau. Disgwylir i bob hyfforddai weithio tuag at gyflwyno gwaith yn un o'r cyfarfodydd cenedlaethol blynyddol a chânt gefnogaeth lawn yn hyn o beth. Mae'r adran yn cyfranogi’n weithredol mewn ymchwil lleol a chenedlaethol.

Bydd hyfforddeion llwyddiannus yn ymwneud ag addysgu a goruchwylio myfyrwyr meddygol, cydweithwyr iau a staff nyrsio. Mae llawer o gyfleoedd ar gyfer addysgu, ar lefel israddedig ac ôl-raddedig, yn lleol ac yn rhanbarthol.  Mae cysylltiadau agos â Phrifysgol Caerdydd ac felly anogir hyfforddeion yn frwd i gynorthwyo gyda gweithrediad y modiwl pediatrig fel rhan o’r BSc Meddygaeth Frys.

Mae profiad rheoli yn cynnwys ymdrin â digwyddiadau critigol a chwynion, cyfrifoldebau rota a rheoli prosiectau.  Mae hyfforddiant is-arbenigedd PEM yn gyfle gwych i'r rhai sydd â diddordeb mewn ymdrin â phlant a phobl ifanc yn ein hadrannau achosion brys, i ddatblygu eu sgiliau a bwydo eu hangerdd.

CLYWCH GAN EIN HYFFORDDEION PRESENNOL:

“Mae hyfforddiant Meddygaeth Frys Bediatreg yng Nghymru wedi’i leoli yng Nghaerdydd – prifddinas fyrlymus gyda llawer i’w gynnig, yn ogystal â thraethau a mynyddoedd gerllaw. Mae gan yr Adran Achosion Brys Plant yno dîm brwdfrydig a chefnogol. Yn fwy felly nag yn unrhyw le arall imi weithio o’r blaen, maent yn ymdrechu i weithio fel un tîm amlddisgyblaethol ac yn trefnu digwyddiadau cymdeithasol staff yn rheolaidd. Mae’r ysbyty plant gyfagos hefyd yn gyfleuster rhagorol ac mae gweithio yno am chwe mis yn rhoi persbectif ffres i’w groesawu o ran ymarfer meddygaeth bediatrig, ar wahân i osodiad Adran Achosion Brys.”

“Cyfle gwych i fireinio sgiliau dadebru pediatrig, sgiliau ag oedolion a phlant mewn canolfan trawma mawr pediatrig. Cefais gefnogaeth ar hyd y daith gan dîm deinamig o feddygon ymgynghorol, ym maes Pediatreg a Meddygaeth Frys, a oedd yn rhannu cyfoeth o wybodaeth ac yn llawn brwdfrydedd i addysgu.”