Mae Meddygaeth Frys (EM) yn rhaglen chwe blynedd. Mae'r ddwy flynedd gyntaf yn cynnwys cylchdro’r Llwybr Craidd Gofal Acíwt (ACCS), gyda chwe mis yn cael ei dreulio ym mhob un o’r arbenigeddau ACCS; Meddygaeth Frys, Meddygaeth Fewnol Acíwt, Anesthesia, a Meddygaeth Gofal Dwys.
Mae'r drydedd flwyddyn o hyfforddiant yn canolbwyntio ar feddygaeth frys bediatrig ac oedolion, gan ymroi i ddatblygu’n gofrestrydd ac ymgymryd â Hyfforddiant Arbenigol Uwch (HST) ym mlynyddoedd ST4-6. Mae’r blynyddoedd HST yn cynnwys rhwng chwech a deuddeg mis mewn Canolfan Trawma Mawr.
Mae cyfleoedd hyfforddi is-arbenigedd yn bodoli mewn Meddygaeth Frys Cyn Ysbyty (PHEM), Meddygaeth Frys Bediatrig (PEM), Meddygaeth Gofal Dwys (ICM), Ymchwil, Arweinyddiaeth ac Addysg Feddygol.
Mae gan Gymru saith safle hyfforddi EM: Ysbyty Gwynedd (YG, Bangor) a Wrecsam yng ngogledd Cymru, a Threforys (Abertawe), Tywysoges Cymru (POW, Pen-y-bont ar Ogwr), Ysbyty Athrofaol Cymru (UHW, Caerdydd), Ysbyty'r Tywysog Siarl (PCH, Merthyr Tudful), ac Ysbyty Athrofaol Y Faenor (GUH, Cwmbrân) yn ne Cymru.
Dros y blynyddoedd diwethaf, bu'n bosibl i hyfforddeion dreulio cylchdroadau EM cyfan yn ne Cymru, ac yng ngogledd Cymru a'r cyffiniau. Mae Ysbyty Athrofaol Cymru yn gweithredu fel y Ganolfan Trawma Mawr (MTC) ar gyfer de Cymru, a hithau hefyd yw'r ganolfan bediatrig drydyddol—lle mae rhai hyfforddeion yn treulio eu cylchdro pediatrig ST3.
Mae gan bob ysbyty, heblaw am POW gylchdroadau ST3 gyda'r holl adrannau hyn yn cynnwys ymgynghorwyr hyfforddedig PEM neu ardaloedd pediatrig dynodedig yn yr Adran Achosion Brys (ED).
Mae hyfforddeion Gogledd Cymru hefyd yn treulio rhan o'u hyfforddiant ST3 yn ED Ysbyty Plant Alder Hey (AHCH) yn Lerpwl.
Mae pob hyfforddai’n cylchdroi drwy MTC UHW tra yn Ne Cymru, gyda hyfforddeion o ogledd Cymru yn treulio blwyddyn naill ai yn MTC Ysbyty Athrofaol Aintree yn Lerpwl neu MTC Ysbyty Athrofaol Brenhinol Stoke.
Mae nifer o gyfleoedd ar gael i hyfforddeion EM yng Nghymru o safbwynt hyfforddiant clinigol ac anghlinigol, gyda phob agwedd ar gwricwlwm 2021 y Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys (RCEM) yn cael sylw digonol.
Mae rhaglen addysgu ranbarthol gadarn yn bodoli ar gyfer hyfforddeion EM (rhai wyneb yn wyneb, a rhai'n rhithwir) gydag agweddau ar y cwricwlwm sy’n anodd eu tystiolaethu’n cael eu cwmpasu. Hefyd, rhoddir ffocws a sylw i efelychu, sgiliau cyfathrebu heriol, diwrnodau astudio ‘datblygu’n gofrestrydd’, hyfforddiant rheoli, uwchsain, hyfforddiant Gwella Ansawdd yn ogystal â sgiliau argyfwng a sgiliau llawfeddygol.
Mae cwrs Sgiliau a Thriniaethau Uwch (ASAP) pwrpasol newydd wedi’i ddatblygu sy'n canolbwyntio ar y sgiliau HALO (Aciwtedd Uchel Cyfleoedd Prin) sy’n angenrheidiol i arbenigwr EM. Mae cydweithrediadau unigryw yn bodoli gyda Phrifysgol Caerdydd a'r Ysgol Feddygol yn ogystal â Rhwydwaith Trawma Mawr De Cymru a'r Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS) Cymru sy'n helpu i draddodi’r hyfforddiant hwn.
Yn ogystal â'r rhaglen addysgu ranbarthol, cynhelir ffug-Archwiliadau Clinigol Strwythuredig Gwrthrychol (OSCE) MRCEM ac FRCEM ddwywaith y flwyddyn er mwyn hyrwyddo cyfleoedd hyfforddeion o lwyddo yn yr archwiliadau hyn i’r eithaf.
Yn olaf, cynhelir cynhadledd hyfforddeion flynyddol Ysgol Meddygaeth Frys Cymru Gyfan (AWSEM) ym mis Mai, gyda chyfle ar gyfer Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) blynyddol yn ogystal â gweithgareddau cymdeithasol i hyfforddeion a hyfforddwyr. Cynhelir hyn mewn cydweithrediad â BSc rhyngosodol Gofal Brys Cyn Ysbyty ac Uniongyrchol (EPIC) Prifysgol Caerdydd. Myfyrwyr.
“Mae meddygaeth frys yng Nghymru’n wych ac mi fuaswn i wir yn argymell ymgymryd â hyfforddiant yma.”
“Mae Cymru wedi rhoi croeso cynnes iawn i fy nheulu a minnau ers symud yma i gael hyfforddiant. Mae gan Gymru lawer i'w gynnig gyda llu o lefydd i'w harchwilio, o'i mynyddoedd i’w thraethau, yn ogystal â hunaniaeth ddiwylliannol gref nad oeddwn erioed wedi'i gwerthfawrogi'n llawn cyn symud yma.”
‘Mae EM Cymru yn cynnig profiad hyfforddi hyblyg a chefnogol, gydag ymgynghorwyr y mae’n bleser gweithio ochr yn ochr â nhw ar y llawr gwaith a chymdeithasu gyda nhw ar ddiwedd sifft!’
“Mae'r ddeoniaeth yn gefnogol iawn ac yn gwrando ar eich anghenion lles a hyfforddiant ac yn cynnig llawer o hyblygrwydd.”
“Mae'r Ysgol Meddygaeth Frys yn gweithio'n galed i gynnal ei hyfforddeion, gyda'r arweinwyr yn ymlafnio i ymgysylltu, cynnwys a chefnogi hyfforddeion ar lefel broffesiynol a phersonol.”
“Er gwaetha'r pwysau ar feddygaeth frys mae yna awyrgylch agored, cefnogol a cholegol.”