Neidio i'r prif gynnwy

Meddygaeth geriatrig

Mae’r rhaglen hyfforddi geriatrig yng Nghymru wedi’i rhannu rhwng y De a’r Gogledd.

Mae rhaglen y Gogledd yn cynnwys hyfforddiant ar dri safle o fewn Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (Bangor, Wrecsam a Glan Clwyd) gyda rhaglen y De yn cynnwys hyfforddiant ar bob safle yn y De o’r gorllewin i’r dwyrain. Nid oes disgwyl i ymgeiswyr sy’n ymgeisio i’r rhaglen geriatrig gylchdroi rhwng y de a’r gogledd. Byddwch yn aros naill ai yn y de neu’r gogledd drwy gydol eich hyfforddiant.

Mae meddygaeth geriatrig yn un o’r arbenigeddau mwyaf yn y DU. Mae’n cynnig her ddeallusol a diddorol: gall salwch gael ei gyflwyno mewn ffyrdd anarferol mewn pobl hŷn, mae ganddynt yn aml sawl patholeg sy’n rhyngweithio, ac mae ganddynt dueddu i brofi adweithiadau andwyol i gyffuriau.

Bydd yr hyfforddiant yn eich galluogi i gynnal ymagwedd gyffredinol ond bydd cyfle hefyd i ddatblygu diddordeb mewn is-arbenigedd. Gall hyn amrywio o strôc i Glefyd Parkinson, atal cwympiadau a thoriadau, diabetes neu glefydau cardiofasgwlaidd. Mae hefyd yn gyfle i weithio yn y gymuned ac mewn ysbytai. Mae ymchwil yn cynhyrchu sail dystiolaeth sy’n tyfu’n barhaus i reoli llawer o gyflyrau sy’n gysylltiedig â henaint, ac mae’r Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer Pobl Hŷn wedi pennu rhai targedau heriol o ran darparu gofal iechyd. Ar hyn o bryd mae tua 800 o ymgynghorwyr yn yr arbenigedd ond mae’r niferoedd yn cynyddu felly mae’r rhagolygon gyrfaol yn rhagorol.

Mae’r geriatregydd mwyaf effeithiol yn feddyg cyffredinol rhagorol gyda sgiliau cyfathrebu da, sy’n gallu gweithio’n dda mewn tîm â disgyblaethau eraill, ac maent yn gallu dangos empathi tuag at bobl hŷn. Mae’r rhan fwyaf o bobl yn cael eu denu gan y ffordd gyfannol mae’r arbenigedd yn ymwneud ag archwiliadau acíwt a rheolaeth ynghyd ag adsefydlu a chynllunio ar gyfer rhyddhau wedi hynny, gyda phob achos wedi’i deilwra ar gyfer anghenion pob unigolyn.

Mae Pwyllgor Cynghori’r Arbenigedd (SAC) mewn meddygaeth geriatrig yn cynnwys cynrychiolwyr o Golegau Meddygol Llundain, Glasgow a Chaeredin, Cymdeithas Geriatrig Prydain, a’r Cofrestryddion Arbenigol eu hunain. Mae’n cwrdd bedair gwaith bob blwyddyn, ac mae’n gweithio â’r JCHMT i gynnal safonau hyfforddi yn yr arbenigedd ledled y wlad. Gwneir hyn drwy gysylltiad clos â Chynghorwyr Rhanbarthol, presenoldeb yn asesiadau blynyddol Cofrestryddion Arbenigol ac arolygon rheolaidd o raglenni hyfforddi ledled y DU.

Pam hyfforddi i fod yn Geriatregydd?

Dolenni defnyddiol

Cysylltiadau