Neidio i'r prif gynnwy

Oncoleg Glinigol (Radiotherapi)

Mae 14 o swyddi hyfforddeion oncoleg glinigol (cyfwerth ag amser cyflawn) yn ne Cymru, wedi’u rhannu rhwng dwy ganolfan hyfforddi; Canolfan Canser Felindre yng Nghaerdydd a Chanolfan Oncoleg Singleton yn Abertawe.

Mae rhaglen hyfforddi Oncoleg Glinigol ar wahân yn y Gogledd gyda thair swydd (cyfwerth ag amser cyflawn). Mae hyfforddeion wedi’u lleoli yn y Ganolfan Triniaeth Canser, Ysbyty Glan Clwyd, gan gysylltu â’r Clatterbridge Cancer Treatment Centre. Mae hyfforddeion yn cael profiad mewn Oncoleg Ymbelydrol Bediatrig a Brachitherapi yn Clatterbridge.

Rhaglen De Cymru: Hefyd, bydd hyfforddeion yn mynychu clinigau cleifion allanol yn y rhan fwyaf o ysbytai cyffredinol dosbarth yn Ne a Gorllewin Cymru.

Mae Rhaglen Hyfforddi Oncoleg Glinigol De Cymru yn ymfalchïo yn ei hyblygrwydd a’i dull sy’n canolbwyntio ar yr hyfforddai. Mae llawer o hyfforddeion yn manteisio ar gymrodoriaethau ymchwil, gweithgarwch y tu allan i’r rhaglen a hyfforddiant llai nag amser llawn i sicrhau bod ganddynt CV cryf, sgiliau clinigol rhagorol a phrofiadau unigryw, gan eu galluogi hefyd i sicrhau cydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith.

Mae hyfforddeion yn cael pob cymorth drwy raglen addysgol leol strwythuredig, dyddiau hyfforddi rhanbarthol a phresenoldeb ar gyrsiau allweddol yn genedlaethol. Gyda gwobr Deithio flynyddol Ian Kirby neu gymorth gan eich ymgynghorwyr, mi all fod yn bosibl i chi fynychu neu gyflwyno mewn cyfarfodydd rhyngwladol.

Beth yw oncoleg glinigol?

Oncoleg glinigol yw rheoli clefyd malaen mewn ffordd anfeddygol, gan ddefnyddio radiotherapi a therapi systemig (cemotherapi, therapi hormonau a chyfryngau biolegol). Mae rheoli canser yn ei holl ffurfiau’n gofyn am feddwl chwilfrydig, cefndir cadarn mewn meddygaeth gyffredinol, sgiliau ymarferol da ac ymrwymiad i ofal cleifion.

O ganlyniad i boblogaeth sy’n heneiddio, datblygiadau therapiwtig newydd a nifer cynyddol o oroeswyr, mae oncoleg glinigol yn arbenigedd sy’n tyfu. Mae’r arbenigedd yn denu lefelau uchel o gefnogaeth gan y cyhoedd ac elusennau canser gan alluogi ymchwil a datblygiad gwasanaethau i barhau yn yr hinsawdd ariannol presennol.

Mae oncoleg glinigol yn arbenigedd sydd â phwyslais clinigol, gyda llawer o’r wythnos waith yn cael ei threulio mewn cysylltiad uniongyrchol â chleifion mewn clinigau cleifion allanol ac ar y wardiau. Mae angen rhai sgiliau ymarferol mewn brachitherapi er enghraifft (radiotherapi mewnol) lle mae mewnblaniadau ymbelydrol yn cael eu gosod o dan arweiniad radiolegol.

Mae natur heriol y clefydau’n golygu bod defnyddio a chyfrannu at ymchwil drwy dreialon clinigol neu natur ymchwil drosi yn allweddol i reoli cleifion. Mae treulio cyfnod o amser mewn ymchwil yn ystod yr hyfforddiant yn cael ei annog ac mi all hynny arwain at radd uwch.

Mae gwaith tîm yn bwysig iawn. Mae’r rhan fwyaf o oncolegwyr clinigol yn gweithio mewn timau amlddisgyblaethol o nyrsys arbenigol, radiograffwyr, ffisegwyr, llawfeddygon a meddygon eraill, a rhaid i bob un ohonynt integreiddio a chyfathrebu’n effeithiol. Mae sgiliau cyfathrebu’n bwysig, o ran rheoli cleifion a gweithio mewn tîm.

Mae hyfforddiant arbenigol mewn oncoleg glinigol yn dechrau ar ôl Hyfforddiant Meddygol Craidd (CMT) ac mae MRCP yn ofynnol ar gyfer mynediad. Cynghorir ymgeiswyr i gael peth profiad mewn oncoleg glinigol neu feddygol neu ofal lliniarol yn ystod eu hyfforddiant cyn-arbenigol, ond nid yw hyn yn orfodol.

Coleg Brenhinol y Radiolegwyr sy’n pennu’r safonau ac yn llunio’r cwricwlwm ar gyfer hyfforddiant arbenigol mewn oncoleg glinigol, sy’n arwain at ddyfarnu Tystysgrif Cwblhau Hyfforddiant (CCT).

Yn ystod hyfforddiant arbenigol, rhaid llwyddo yn Arholiad Cymrodoriaeth Coleg Brenhinol y Radiolegwyr (FRCR). Mae Arholiad Cyntaf yr FRCR yn ymdrin â’r gwyddorau canser sylfaenol, sef ffiseg feddygol, ystadegau meddygol, radio-bioleg, bioleg celloedd a ffarmacoleg glinigol. Bydd yr arholiad fel arfer ar ôl blwyddyn o hyfforddiant arbenigol. Bydd yr holl hyfforddeion yn profi addysgu cynhwysfawr yn y pynciau hyn, a hynny fel arfer o fewn eu hamserlen wythnosol.

Mae’r rhan fwyaf o hyfforddeion yn barod i sefyll arholiad terfynol yr FRCR ddwy flynedd yn ddiweddarach, ar ôl dysgu rheolaeth sylfaenol yr holl glefydau malaen cyffredin a rhai llai cyffredin.

Mae cam olaf yr hyfforddiant ar ôl arholiad yr FRCR yn galluogi’r hyfforddeion i ehangu ac ymestyn eu profiad, ac mae’n caniatáu amser ar gyfer ymchwil a chael y sgiliau rheoli sydd mor bwysig i yrfa fel ymgynghorydd gyda’r GIG.

Mae hyd yr hyfforddiant yn bum mlynedd ond bydd hwn yn cael ei ymestyn yn aml gan gyfnodau ar gyfer ymchwil y tu allan i’r rhaglen neu gan hyfforddiant llai nag amser llawn.

Ar ôl CCT, bydd y rhan fwyaf o oncolegwyr clinigol yn datblygu diddordeb is-arbenigol mewn nifer llai o safleoedd tiwmor ac mae bron pob oncolegydd clinigol yn gysylltiedig â threialon clinigol neu weithgarwch ymchwil arall.

Gyda datblygiadau cyflym mewn sawl agwedd ar oncoleg gan gynnwys technegau radiotherapi newydd a datblygiadau mewn ffarmacoleg mi welwch eich bod yn parhau i ddysgu a datblygu drwy gydol eich gyrfa.

Mae rhywbeth unigryw am gleifion â chlefyd malaen sy’n symbyliad cryf i arbenigwyr canser. Mae goruchwyliaeth fwy tynn a gwell dros hyfforddiant nag erioed, ac mae’r potensial i reoli canser mewn ffordd effeithiol a goleuedig yn enfawr ar adeg pan mae ymchwil o’r diwedd yn ein helpu i ddeall bioleg y clefydau hyn ac i ganfod ffordd effeithiol o’u trin.

Beth i’w wneud nesaf

Mae’r gystadleuaeth am swyddi hyfforddiant mewn oncoleg glinigol yn debyg i’r rhan fwyaf o arbenigeddau meddygol. Cynghorir darpar hyfforddeion i:Mae’r gystadleuaeth am swyddi hyfforddiant mewn oncoleg glinigol yn debyg i’r rhan fwyaf o arbenigeddau meddygol. Cynghorir darpar hyfforddeion i:

  • Cael CV da fel myfyriwr meddygol
  • Ystyried cymryd BSc rhyngosodol i ddysgu sgiliau ymchwil a labordy
  • Cael sylfaen dda mewn meddygaeth gyffredinol a llawdriniaeth yn ystod y Rhaglen Sylfaen
  • Cael lle ar gylchdro Hyfforddiant Meddygol Craidd (CMT), sy’n ddelfrydol yn cynnwys lleoliad mewn oncoleg feddygol neu glinigol neu feddygaeth liniarol
  • Ymgymryd â rhai archwiliadau clinigol neu feddygol
  • Treulio peth amser i ddeall sut mae gwasanaethau canser yn gweithio yn y DU
  • Pasio’r arholiad MRCP.

Rydym yn croesawu ymholiadau gan unrhyw un sy’n ystyried gyrfa mewn oncoleg glinigol. Os hoffech gael cyngor neu os hoffech drafod gael profiad mewn oncoleg, cysylltwch â Chyfarwyddwr y Rhaglen Hyfforddi Dr Nachi Palaniappan.

Cadeirydd STC ar gyfer Oncoleg Feddygol a Chlinigol yng Nghymru yw Dr Rachel Jones ac mae wedi’i lleoli yn Ysbyty Singleton.

Am gyngor ar arweiniad ar fod yn Oncolegydd Clinigol, ewch i RCR Advice