Neidio i'r prif gynnwy

Oncoleg Feddygol

CYFLWYNIAD

Mae oncolegwyr meddygol yn ymwneud â gofalu am gleifion sydd â chanser o ddiagnosis cyntaf drwy driniaeth i oroeswr neu drosglwyddo i ofal lliniarol. Mae'n arbenigedd gwerth chweil felly lle mae parhad y gofal yn golygu bod oncolegwyr meddygol yn gallu sefydlu perthynas ardderchog gyda'u cleifion, yn aml dros nifer o flynyddoedd.

Mae gwella goroesiad cleifion â chanser yn rôl allweddol i oncolegwyr meddygol ac felly bydd cleifion ar driniaethau newydd a threialon clinigol. Mae hyn yn gwneud ymchwil glinigol yn nodwedd bwysig ac yn meddwl fod cyfran sylweddol o hyfforddeion felly'n ymgymryd â graddau uwch. Gall hyn gymryd sawl ffurf – gan gynnwys ymchwil labordy, cyfieithiol neu glinigol ar sail treial. O ganlyniad mae oncoleg yn arbenigedd deinamig a heriol, sy'n dod â llawer o amrywiaeth yn ei sgil.

HYFFORDDI YNG NGHYMRU

Mae hyfforddiant mewn oncoleg feddygol yn cynnwys cylchdroi a dysgu am reoli'r holl brif fathau o ganser. Mae hyn yn cynnwys dod yn gymwys i oruchwylio triniaethau systemig, sy'n ymgorffori cemotherapi, therapi endocrinaidd ac asiantau biolegol mwy newydd (fel gwrthgyrff ac imiwnotherapi). Ar ben hynny, gyda'r dull amlddisgyblaethol o ofal canser, mae mwy o hyfforddeion yn dysgu'r llwybrau gofal cymhleth a natur aml-foddol triniaethau. Mae'r cwricwlwm oncoleg cyfunol newydd yn sicrhau'r cyfle i ddatblygu sgiliau mewn oncoleg acíwt yn y Ganolfan Ganser ac mewn Ysbytai Cyffredinol Rhanbarthol.

Bydd hyfforddeion yn ne Cymru yn cylchdroi rhwng Canolfan Ganser Felindre yng Nghaerdydd a Chanolfan Ganser De Orllewin Cymru yn Abertawe. Mae cyfleoedd cyffrous gan gynnwys cylchdroi drwy uned treialon clinigol Cam 1 a chyfleoedd ar gyfer ymchwil.

Mae hyfforddeion yng ngogledd Cymru yn cylchdroi rhwng Ysbyty Glan Clwyd, Ysbyty Gwynedd, Ysbyty Maelor a Chanolfan Ganser Clatterbridge (chwe mis). Dyma gylchdro deinamig sy'n cynnig amrywiaeth eang o brofiad a chyfleoedd ar gyfer ymchwil mewn prifysgolion rhanbarthol.

CLYWCH GAN EIN HYFFORDDEION PRESENNOL:

Sylwadau gan y hyfforddeion presennol:

"Amgylchedd clinigol cefnogol gyda digon o gyfleoedd addysgol"

"Dull hyblyg a chymorth ariannol ar gyfer cyrsiau cwricwlwm penodol oncoleg"

"Ward hyfryd yn Singleton gyda golygfa o'r môr!"

"Cyfleoedd gwych gyda uned dreialon clinigol uned cam 1 yng Nghanolfan Ganser Felindre”