Neidio i'r prif gynnwy

Obstetreg a gynecoleg

Ein rhaglen hyfforddi

Mae hyfforddiant y DU mewn O&G yn gofyn am isafswm o saith mlynedd o hyfforddiant arbenigol (ST1–ST7), i’w gwblhau yn dilyn y ddwy flynedd o hyfforddiant sylfaen. Mae’r rhaglen wedi’i rhannu’n lefelau hyfforddiant sylfaenol, canolraddol ac uwch.

Mae’r rhaglen yn dilyn y cwricwlwm craidd, ac mae hefyd yn cynnwys hyfforddiant uwchsain. Ar ôl i chi fynd ymlaen i hyfforddiant uwch, byddwch yn dechrau datblygu’r sgiliau penodol sydd eu hangen ar gyfer y meysydd yr hoffech ymarfer ynddynt fel ymgynghorydd drwy ddewis Modiwlau Sgiliau Hyfforddi Uwch (ATSM) neu wneud cais am hyfforddiant is-arbenigol. Os hoffech ddilyn gyrfa academaidd, bydd angen i chi gwblhau’r cwricwlwm academaidd.

Ar ôl i chi gwblhau’r rhaglen yn llwyddiannus, dyfernir i chi Dystysgrif Cwblhau Hyfforddiant (CCT) neu Dystysgrif Cymhwystra ar gyfer Cofrestriad Arbenigol – Rhaglen Gyfun (CESR(CP)), yn ddibynnol ar eich llwybr drwy’r hyfforddiant. Bydd hyn yn golygu eich bod yn gymwys i gael eich derbyn ar y Gofrestr Arbenigwyr yn y DU, rhywbeth y bydd ei angen arnoch i ymarfer fel ymgynghorydd yn y GIG.

Mae tua 70 o hyfforddeion ar raglen hyfforddi Obstetreg a Gynecoleg AaGIC.

Mae ein derbyniad ST1 yn ddeg fel arfer, yn ddibynnol ar y niferoedd sy’n hyfforddi. Y rhaniad arferol yw: tri o’n swyddi hyfforddi yn y Gogledd a saith yn y De.

Cylchdroeon ysbytai

Cylchdroeon blaenorol ar gyfer ST1-3:

  • POW / UHW / UHW
  • Brenhinol Gwent / UHW / UHW
  • PCH / Brenhinol Gwent / Brenhinol Gwent
  • Wrecsam / UHW / UHW
  • Wrecsam / Ysbyty Gwynedd / Ysbyty Gwynedd
  • Ysbyty Gwynedd / Wrecsam / Wrecsam
  • Glangwili / UHW / UHW
  • Glangwili / Singleton / Singleton

Cylchdroeon byrddau iechyd

Mae hyfforddeion yn cylchdroi rhwng y byrddau iechyd canlynol:

  • Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan
  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
  • Bwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro
  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg
  • Bwrdd Iechyd Hywel Dda
  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Map o Gymru

Wrth wneud cais am hyfforddiant O&G yng Nghymru byddwch yn gallu nodi eich hoffterau ar gyfer hyfforddiant. Bydd cylchdro tair blynedd yn cael ei hysbysebu i chi, ac er y gall blynyddoedd dau a thri newid rydym yn ymdrechu i gadw atynt gymaint ag y gallwn. Mae’r cylchdroeon tair blynedd hyn yn rhoi syniad i chi o ble y byddwch am dair blynedd gyntaf eich hyfforddiant. Pan fyddwch yn dechrau ST4+ mi allwch nodi eich hoffterau ar gyfer eich lleoliadau. Rydym yn ceisio eich lleoli yn un o’ch tri dewis cyntaf os yn bosibl.

Bydd pob hyfforddai’n treulio o leiaf dwy flynedd yn un o ysbytai mwy y De.

Mae’r cwricwlwm, a bennir gan RCOG yn cynnig hyfforddiant eang mewn Obstetreg a Gynecoleg am y pum mlynedd gyda chyfle i arbenigo mewn meysydd gwahanol yn nwy flynedd olaf yr hyfforddiant.

Rydym yn hapus i gefnogi hyfforddiant llai nag amser llawn (LTFT), cyfleoedd y tu allan i’r rhaglen ac absenoldeb rhiant (Word, 137KB).

Trosolwg o’r hyfforddiant

Mae’r hyfforddiant fel arfer yn para am saith mlynedd ac mae’n arwain at Dystysgrif Cwblhau Hyfforddiant (CCT). Mae tri cham penodol i’r hyfforddiant:

Cam un

Hyfforddiant sylfaenol StR blynyddoedd un-dau. Rhaid i hyfforddeion basio rhan un o MRCOG cyn mynd ymlaen i ST3.

Symud o’r ar-alwad cyntaf i’r ail ar-alwad

Gall pontio o’r ar-alwad cyntaf i’r ail fod yn amser anodd i unrhyw hyfforddai. Yn ddiweddar datblygwyd cynllun gennym i alluogi’r pontio hwnnw i ddigwydd ar raddfa sydd nid yn unig yn briodol i’r cymhwystra, ond hefyd i hyder hyfforddeion unigol. Ar ddechrau ST3 bydd hyfforddeion fel arfer yn cael eu lleoli mewn swydd ar-alwad cyntaf, ond bydd eu dyletswyddau’n cael eu haddasu a bydd cynnydd yng nghyfrifoldebau’r gwaith a chyn gynted ag y bydd yn briodol bydd lefel y dyletswyddau’n cynyddu i lefel ail ar-alwad. Rydym yn gobeithio y bydd hyn yn rhoi sylw i fuddiannau a diogelwch pawb (hyfforddeion, hyfforddwyr ac yn bwysicach na dim, cleifion).

Cam dau

Mae hyfforddiant cyffredinol mewn StR ym mlynyddoedd tri i bump. Rhaid i hyfforddeion basio Rhan II MRCOG cyn dechrau blwyddyn chwech. Yn ystod ST5 bydd hyfforddeion yn cynnig am Fodiwl Sgiliau Hyfforddiant Uwch (ATSM) i’w cymryd ym mlwyddyn chwech.

Cam tri

Hyfforddiant uwch ym mlynyddoedd chwech a saith. Bydd hyfforddiant yn y blynyddoedd hyn yn cael ei gyfeirio at ddiddordebau arbennig ac anghenion yr hyfforddeion unigol. Bydd angen i hyfforddeion wneud o leiaf ddau ATSM.

Cylchdroeon hyfforddi

Bydd cylchdroeon hyfforddi ym Mlynyddoedd un i bump wedi eu cyfyngu, i’r graddau posibl, i’r isranbarthau a bydd fel arfer yn cynnwys o leiaf un flwyddyn mewn "Canolfan Addysgu" sydd hefyd ag un neu ragor o hyfforddeion Blwyddyn chwech neu saith. Bydd hyfforddiant yn y blynyddoedd hyn yn dilyn y cwricwlwm a bennwyd gan yr RCOG a bydd disgwyl i hyfforddeion gadw llyfr log coleg a ffeil datblygiad proffesiynol. Bydd disgwyl bod asesiadau’n cael eu cynnal yn y gweithle a bod dogfennaeth ar gael i ategu cynnydd drwy’r hyfforddiant. Fel gyda phob arbenigedd, bydd cynnydd o un flwyddyn i’r nesaf yn ddibynnol ar Adolygiad Blynyddol o Ddilyniant Cymhwysedd (ARCP) boddhaol, a thua diwedd blynyddoedd dau a phump bydd cyfweliad mwy trylwyr gyda’r nod o asesu cynnydd cyffredinol yr hyfforddai a chynllunio lleoliadau ar gyfer cam nesaf yr hyfforddiant. Bydd pob ARCP yn cael ei gynnal ym Mhanelau Asesu’r Ddeoniaeth.

Dolenni defnyddiol