Neidio i'r prif gynnwy

Recriwtio

Stethoscope surrounding a family

Rydym yn cynnig rhaglenni Meddyg Teulu (GP)  ym mhob rhan o Gymru ar draws 11 ysgol hyfforddi arbenigol.

Ar gyfer pob cynllun yng Nghymru, mae Cyfarwyddwyr Rhaglenni MT dynodedig (GP PDs) sy'n cynorthwyo, trefnu ac arwain hyfforddiant.

Fel hyfforddai, byddwch yn cael cynnig ystod eang o swyddi hyfforddiant mewn ysbytai a phractisau cyffredinol yng Nghymru. Mae'r rhain yn cydymffurfio â safonau'r Cyngor Meddygol Cyffredinol (CMC) ar gyfer hyfforddiant.

 

Hyfforddiant yng Nghymru

Mae Practis cyffredinol yn cynnig gyrfa gydag amrywiaeth, hyblygrwydd a her. Rydych yn gweithio mewn timau i ddarparu gofal cyfannol a pharhaus i gleifion a'u teuluoedd ar draws ystod o leoliadau. Mae'r rhain yn cynnwys dinasoedd trefol mawr, trefi bach, lleoliadau gwledig, a chymunedau anghysbell.

 

Cymhelliant ariannol

Ar hyn o bryd, mae £20,000 ar gael os byddwch yn cychwyn ac yn bodloni'r meini prawf canlynol:

  • Rydych yn dechrau swydd gyntaf eich rhaglen hyfforddi MT yng Nghymru rhwng 2017 hyd at a chan gynnwys Chwefror 2024,
  • Lleolir eich swydd mewn ardal wedi'i thargedu sydd â hanes o gyfraddau llenwi is na'r cyfartaledd. Gellir dod o hyd i'r rhain mewn meysydd hyfforddi dethol o fewn Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (HDUHB), Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) a Bwrdd Iechyd Addysgu Powys (PTHB).
  • Rydych yn parhau mewn ardal wedi'i thargedu trwy gydol eich hyfforddiant ac am flwyddyn o ymarfer ar ôl i chi gymhwyso.

Mae rhagor o wybodaeth am y cymhellion hyn ar gael yn ein Cwestiynau cyffredin.

 

Cyfleoedd hyfforddiant pellach

Cyfleoedd hyfforddiant academaidd ar gyfer hyfforddeion MT (GPSAT)

Gallwch ymgymryd â rhaglen hyfforddiant academaidd ynghlwm wrth adrannau academaidd Prifysgolion Caerdydd, Abertawe a Bangor.

Caiff y cyfleoedd hyn eu hysbysebu'n flynyddol i hyfforddeion MT ST2.

 

Trac Academaidd Clinigol Cymru (WCAT)

Nod y gymrodoriaeth hon yw rhoi'r wybodaeth a'r sgiliau i chi fel hyfforddai academaidd clinigol i gystadlu fel ymchwilydd annibynnol ym maes ymchwil trosiadol fodern.

Mae pob cymrodoriaeth WCAT yn darparu hyfforddiant o’r cychwyniad hyd nes cael y Dystysgrif Cwblhau Hyfforddiant (CCT). Mae'n cynnwys cymrodoriaeth hyfforddiant PhD tair blynedd a ariennir â chyflog. Mae hefyd yn cynnwys cyfnod o hyfforddiant clinigol gydag amser academaidd gwarchodedig (0.2 WTE) yn y blynyddoedd hyfforddiant clinigol.

 

Cymrodoriaeth Hyfforddiant Arweinyddiaeth Glinigol Cymru (WCLTF)

Dyma gyfle blwyddyn i feddygon, deintyddion, nyrsys, fferyllwyr, optometryddion, gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd a gwyddonwyr gofal iechyd.

Mae rhaglen WCLTF yn darparu hyfforddiant a phrofiad ymarferol mewn arweinyddiaeth a rheolaeth glinigol. Ei nod yw recriwtio a datblygu arweinwyr clinigol mwyaf uchelgeisiol y dyfodol.

 

 

Ymgeisiwch nawr

Caiff recriwtio i bob rhaglen Hyfforddiant Arbenigol Ymarfer Cyffredinol (GPST) yn y DU drwy broses genedlaethol a reolir gan y Swyddfa Recriwtio Genedlaethol Meddygon Teulu (GPNRO).

Pam ydych chi’n oedi? Darganfyddwch ragor am ffenestri recriwtio a sut i wneud cais a dechrau gyrfa eich breuddwydion.